Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uwch nag ef mewn dysg; nid oedd ei dalent a'i dueddfryd o'r un rhywogaeth ag eiddo ein harwr ychwaith; ni siaradai haner cymaint; ond pa beth bynag a ddywedai, byddai'n gynwysfawr, i'r pwrpas, ac yn llawn o garictor.

Gŵyr y darllenydd eisoes fod Mrs. Parri'n dra hoff o fiwsig. Dygwyddodd fod pob un o'r cwmni difyr ag oedd yn y tŷ yr adeg yma, mor hoff, ac efallai, mor alluog a'u gilydd. Gallai Gwen bach chwareu'r piano'n swyngar Llewelyn oedd yn gampus o chwareuwr ar y flute, a thalodd Walter sylw nid bychan i'r piano hefyd.

Wedi sirioli natur â chwpanaid o dê, dywedodd Llewelyn wrth ei chwaer,

"'Rwan, Gwen, mae arnaf hiraeth am dy glywed yn myned dros rai o dy hoff alawon ar yr hen biano 'na, a gwrando hefyd ar dy lais yn herio tynerwch yr offeryn. Tyr'd, dyro gân,'ngeneth i," a lladratäodd gusan oddiar ei gwefus gwrelaidd.

Neidiodd yr eneth at y piano fel aderyn ysgafndroed: chwareuodd "Nos Galan," nes tynu'r dagrau i lygaid ei brawd. Aeth dros amryw eraill hefyd; ac ni fuasai'r gwrandawyr yn blino pe yr aethai yn mlaen felly trwy'r nos. Ond teimlai hi awydd clywed y llanc dyeithr yn cyffhwrdd yr offeryn hoff. Deallodd Llewelyn ar ei golwg, beth oedd ar ei meddwl, a dywedodd,

"Walt., y mae fy chwaer llawn cystal am farnu chwareu rhai eraill, ag yw am chwareu ei hunan. Dyro dro dros rai o alawon yr hen Alban."

"Un peth a fedraf i foddloni Miss Parri," oedd yr ateb. Chwareuodd "Auld Lang Syne," braidd i berffeithrwydd. Wedi hyny canodd yr hen falad gampus, "Will and Jean," o waith Hector Macneil, a dilynodd ei lais a'i law; a

"Chyd â'r llaw ydd â'i'r Awen; Wi! wi! i'r llaw wisgi wèn."

Gwrandawai Mrs. Parri, Llewelyn, a Gwen bach, mewn syndod a dedwyddwch. Wedi i'r llanc orphen, unodd y eyfan i ganu a chwareu, mewn cydgan, yr hen "Sweet Home." Aed drosti a throsti drachefn, ac ni wyddir pa pryd y buasid yn darfod â hi, oni bai i floedd o'r heol ddyrysu eu cyngherdd. Bloedd oedd honno na chlywodd yr un o'r cwmni dedwydd ei bath erioed o'r blaen. Neidiodd Llewelyn i'r ffenestr, a thyna lle y gwelai dorf o bobl, gwýr, gwragedd, a phlant, yn rhedeg ar ol dyn ag oedd yn ymddangos megis yn wallgof. Rhedodd Llewelyn allan ac ar eu holau; dilynodd hwy at lán yr afon, a chyrhaeddodd yno'n ddigon buan i weled yr adyn ag y ceisid ei ddal,