Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cymeryd naid ofnadwy oddi ar bincyn craig i lawr i'r berw islaw, ac yn cael ei rowlio gan y dylif tua'r weilgi fawr, nes, o'r diwedd, suddo am byth dan y tonau certh! Cyfodai'r dyrfa floedd fawr, rwygol, wrth ei weled yn cymeryd ei naid, a dychwelodd Llewelyn gartref i fyned dros yr hanes.

Erbyn iddo fyned i'r tŷ, yr oedd Mrs. Parri wedi cael gwybod gan y gwas pwy oedd yr adyn gwallgof. Pwy 'ddyliet ti oedd ef ddarllenydd? Y truan gwr Sion Williams! Gwnaeth y dyn anffodus gais teg at fyw'n sobr, ar ol yr amgylchiad o gladdedigaeth ei eneth; a llwyddodd i gadw'r addewid a wnaeth i Mrs. Parri, am fis neu ddau; ond fe guriai ei gnawd ymaith, nes braidd nad oedd ganddo ond y croen am yr esgyrn; nis gallai roddi cwsg i'w lygaid na hun i'w amrantau, ddydd na nos; ac o'r diwedd, fe 'i gyrwyd at y cwpan meddwol drachefn, er mwyn ceisio lleddfu pangfeydd ei enaid.

Ymddangosai fel dyn wedi llwyr golli arno 'i hun. Cymerwyd ef i'r gwallgofdy. Cadwyd ef yno am flynyddoedd, nes y tybiwyd ddarfod i'w synwyrau gael eu hadferu. Daeth adref. Ond enynodd yr olwg ar ei hen drigfan—ar fedd ei Ann fach, yr hon a hyrddiwyd i dragywyddoldeb gan ei law greulon ef ei hun—ar fedd Mari ei wraig, yr hon a dorodd ei chalon mewn gofid a chyni— ar ei hen fwthyn yn gartref clyd i ryw estroniaid, —enyodd yr holl bethau hyn y fath fflam o ofid yn ei fynwes, nes y tybiodd nad oedd dim ond y ddïod fyth a'i diffoddai. Ymrôdd i yfed ac i yfed gyn waethed ag erioed. Cyfarfyddwyd ef ar yr heol, tuag wythnos cyn yr amgylchiad sobr yma, gan Mrs. Parri. Syrthiodd ar ei ddwylin ar lawr, a wylodd fel plentyn wrth ei gweled. Buasai edrych arno yn toddi'r galon galetaf.

"Oh! Mrs. Parri anwyl!" meddai; "fedrwch chi na neb arall mo f' achub i rwan! Waeth i mi heb na threio bod yn ddyn sobor byth mwy! Y mae gwyneb yr eneth bach o flaen fy llygaid raid i ba le bynag yr af, âf, a llais Mari yn erfyn am i mi arbed ei bywyd, yn swnio yn fy nghlustiau bob munud! Yr wyf yn clywed y beth bach yn crio—yr wyf yn ei gweled yn gorph marw ac oer-yr wyf yn ei chlywed yn achwyn wrth ei mam, mewn llais isel, gresynus, mai fi a'i lladdodd! Nid oes i mi orphwysdra na dydd na nos, ond pan fo fy ymenydd wedi ei foddi mewn diod!".

Dyna oedd agwedd ei feddwl wythnos yn ôl. Ond beth yw yn awr? Safai o'r blaen yn ei olwg ei hun, yn ngolwg