Mrs. Parri, ac yn ngolwg Duw, fel llofrudd ei eneth—fel torwr calon ei wraig; ond safai yn awr yn nghlorian ei Farnwr, fel llofrudd ei blentyn—fel dinystrydd ei wraigfel dinystrydd ei fywyd ei hun, ac fel damniwr ei enaid am byth!
"Mam!" meddai Llewelyn, gan dynu ei gadair at ei hochr, ar ol dychwelyd o weled yr adyn yn boddi; "Mam! y mae arnaf ofn fod y cyffro yma wedi effeithio gormod arnoch; yr ydych yn edrych yn bur ben-isel."
"O, fy machgen!" atebai'r fam; "y mae genyf reswm da dros fod yn ben-isel. Yr wyf yn gwybod mwy am yr adyn yma sydd newydd hyrddio 'i hun i dragywyddoldeb, nag y mae neb yn ei feddwl; ac y mae adgof am bethau a ddigwyddodd flynyddau'n ol, yn pwyso'n drwm ar fy meddwl y fynud yma!"
Torodd Gwen bach i wylo wrth glywed ei mam yn siarad fel yna, er na wyddai at ba beth yr oedd yn cyfeirio. Efallai fod gan Llewelyn ryw adgof am yr amgylchiad o farwolaeth geneth Sion Williams, ond ni wyddai ddim am yr achos o'i hangau.
"Mae arnaf ofn eich bod yn myned yn nervous, mam," meddai Llewelyn.
"Yr wyf yn gwybod digon o bethau i wneyd llawer un yn nervous," oedd yr ateb. "Am pa bethau, mam?" "Am effeithiau meddwdod."
"Os meddwdod a yrodd y dyn yma i wneyd pen am dano 'i hun fel yna, yr wyf fi'n methu gweled paham y rhaid i chwi boeni yn ei gylch."
"Dichon fod mwy a wnelwyf fi a'r peth, nag yr wyt ti'n ei wybod, Llewelyn."
"Wel, os oedd raid iddo gael diod; ac os nad allai gadw rhëol ar ei drachwant, iawn oedd iddo sefyll y canlyniad. Nid oes dim ychwaneg a fyno neb ag ef ei fai ef ei hun yn unig oedd."
"Welais di erioed rai o effeithiau mwyaf ofnadwy meddwdod?"
"Do! mi a welais un o'r students, ar ol bod yn yfed gwirod am wythnos, wedi llosgi'n lludw ar lawr ei ystafell erbyn un bore, pan nad oedd dim tân yn agos ato, nac ôl tân ar ddim byd arall; a barn y doctoriaid oedd, ei fod wedi myned ar dân oddi wrth natur danllyd gormod o wirodydd poethion."
"Wel, rwan—fydd rhyw ddigwyddiadau fel yna ddim yn sibrwd yn dy feddwl di, y dylid defnyddio rhyw foddion i roddi atalfa ar bethau fel hyn?"