"Wnewch chwi addaw arfer eich cariad a'ch dylanwad o fy mhlaid ynte?" gofynai Walter.
"Nid yn unig yr wyf yn addaw, ond yn tynghedu!"
Rhoddodd y sicrhad yma fath o foddlonrwydd i feddwl Walter. Parhaodd y ddau yn ddystaw am ychydig fynydau, a syrthiodd Llewelyn mewn hun. Ni chysgodd Walter, ond myfyriai'n ddwys ar rywbeth. Parhaodd y ddau felly hyd nes y dychwelodd y boneddigesau o'u neges genadol ganmoladwy.
Cwestiwn cyntaf Gwen bach oedd,
"Sut mae 'ch cur, fy mrawd?"
"Oh, all right," atebai Llewelyn. "Mae o wedi diflanu ymaith cyn llwyred ag eira'r llynedd."
Mae'n dda genyf glywed."
"Ond Gwen, beth feddyliech chwi a wnaethum i tra yr oeddych allan?"
"Wn i ddim wir."
"Dyfeisiwch."
"Fedra' i ddim—dywedwch chwi."
"Wel, mi roddais y Christmas Box gwerthfawrocaf yn yr holl fyd i Walter!"
"Haelionus iawn wir. Ond wyddwn i ddim o'r blaen eich bod yn feddiannol ar y peth mwyaf gwerthfawr yn y byd," meddai Gwen, dan chwerthin yn llawen.
"Fuasech chwi ddim yn dweyd hyny," meddai Walter, dan edrych mor dyner ag y medrai yn ei llygaid, "pe y gwybyddech beth oedd yr anrheg."
"Dichon hyny," meddai Gwen drachefn; "ond nid yw o bwys yn y byd genyf fi beth a roddodd, os yw wedi peidio ymadael a'i chwaer." Chwerthai'r eneth dlos drachefn.
"Ha, ha, ha! dyna'n union y peth yr wyf wedi ei roddi iddo. Rhoddais fy unig chwaer i fy mrawd mabwysiedig. Ai nid yw honyna yn rhodd werthfawr? Rhaid i ti gofio hyn pan ddeui'n fawr, Gwen, a pheidio syllu mewn serch hefo'r llygaid gleision yna ar neb ond Walter. Dyro dy law iddo, i ddangos dy gydsyniad, Gwen," dywedai Llewelyn.
"Mi a roddaf fy llaw yn rhwydd," ebe'r eneth; "ond cofiwch, nad wyf wrth hyny yn cydsynio. Ond yr wyf yn addaw ystyried y mater drosodd. Y mae arnaf ofn y bydd i mi gyfarfod â rhywun arall ag y gallaf ei garu'n well."
"Na! rhaid i chwi beidio meddwl am hyny," meddai Walter, dan gusanu ei bysedd meinwynion. "Y funud y bydd i mi gael ar ddeall fod fy anwyl Wen Parri wedi rhoddi ei chalon i arall heblaw fi, bydd fy nhynged wedi