Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei sefydlu am byth—fy nghalon wedi ei thori—fy oes wedi ei gwneyd yn wagnod dibwrpas a difudd yn ngraddfa bodolaeth plant dynion! chwi, Gwen, a fydd seren fy oes eich bresenoldeb chwi fydd y baradwys at ba un y rhodiaf —goleuni disglaer eich llygaid fydd colofn arweiniol fy nghamrau—swn eich llais fydd y miwsig y byddaf yn hiraethu am dano—y gobaith o feddiannu eich cariad fydd coron fy modolaeth!"

"Campus, Walter!" dywedai Llewelyn, "Yr ydych yn fwy hyawdl fel carwr o'r haner nag yn y Coleg. Gellwch garu gyd âg arddull Apollo, ac nid tebyg i'n dull diniwed, syml, ni, rhwng bryniau Cymru yma."

"Ha! deuparth yspryd y beirdd Ysgotaidd sydd wedi disgyn arnaf, fachgen—Burns a Byron—"atebai Walter."

"Ond dowch, fy anwyl Wen, cyfhyrddwch eich llaw âg allwedd y piano yna eto."

Nid oedd eisiau gofyn ddwywaith i Gwen chwareu—yr oedd yn rhy hoff o gerddoriaeth.

Wedi myned dros amryw o'i hoff alawon, hysbyswyd hwy fod y ciniaw yn barod. A chiniaw oedd, teilwng o giniaw dydd Nadolig yr hen amser gynt. Ond yr hyn oedd o fwy boddhâd i Lewelyn na'r holl seigiau o'i flaen, oedd gweled ei fam yn edrych arno mor garedig a maddeugar a phe buasai erioed heb droseddu yn ei herbyn. Bwytaodd y bechgyn gyd âg awchusrwydd rhai yn eu hoed hwy; a chafodd Walter brawf teg o garedigrwydd pobl bryniau Cymru.

Treuliwyd y gweddill o'r dydd mewn ymddiddan difyr, canu a chwareu; a phrin y gallesid meddwl fod yr un yspryd drwg erioed wedi cael dylanwad ar yr un o'r cwmni tangnefeddus.

PENNOD VII.

"Glywsoch chwi'r newydd am Harri Huws?" Gofynai dyn ieuanc i un arall, tra'n eistedd wrth dân siriol mewn parlwr cynhes.

"Harri Huws? Y dyn ieuanc hwnw a eisteddai gyferbyn a ni'r noson o'r blaen?"

"Ië, hwnw."

"Naddo, beth am dano?"