Dygwyd Harri Huws i fynu yn holl symledd crefydd y tad a'r fam mwyaf duwiol yn y pentref lle 'i magwyd. Collodd ei rieni'n fore; ond sylwai pawb fod argraphiadau dyfnion wedi eu gwneyd ar ei galon, gan gynghorion ei dad a'i fam. Yr oedd yn un o emau prydferthaf yr Ysgol Sul yn y lle; a gwnaed ef yn aelod o eglwys Crist pan yn ieuanc iawn.
Ymdrechodd lawer, yn ngwyneb anfanteision, i fod yn ysgolaig da, a llwyddodd. Aeth trwy'r tutor heb gymhorth athraw; a chyn bod yn ugain oed, efe oedd y rhifyddwr goreu o fewn pum' milltir o gwmpas.
Pan yn ddwy-ar-ugain oed, syrthiodd mewn cariad a genethig brydferth, merch i dyddyn o fewn milltir i ddinas B————, a charai hi a holl frwdfrydedd cariadlanc dwy-ar-ugain oed. Priododd hi, ac ar farwolaeth ei thad a'i mam, aeth y cwpl ieuanc i fyw i'r hen dyddyn.
Nis gallai dim fyned tu hwnt i wirionedd a phurdeb eu cariad a'u dedwyddwch. Symbylid pob un o'r ddau gan yr unrhyw syniadau, a'r unrhyw dueddiadau, ac ni cheisiai yr un o honynt ei lesiant ei ei hun, ond y naill eiddo'r llall.
Yn mhen y flwyddyn ganwyd iddynt fab, a mawr oedd y llawenydd a ddangoswyd ar yr achlysur dyddorol.
Wedi i ddwy flwydd arall fyned heibio, anrhegwyd Harri Huws drachefn â merch. Prin y gellid dweyd fod y llawenydd cyntaf yn fwy na'r ail.
Gwenai Rhagluniaeth ar y teulu dedwydd; nid oedd yr un cwmwl yn hofran yn awyr eu hamgylchiadau bydol, ond preswyliai digonolrwydd a llawenydd yn wastad ger eu bron. Chwyddai'r arian yn y coffr yn raddol; a gwenieithai'r cwpl tawel iddynt eu hunain y caent ddwyn eu plant i fyny yn barchus, a gosod yn eu dwylaw alwedigaethau a sicrhâi iddynt fywiolaethau cysurus.
Ganwyd mab arall iddynt. Yr oedd Mrs. Huws, un noson, yn canu i yru'r baban hwnw i gysgu, pan ddaeth Harri i'r tŷ, a'i wyneb yn bradychu math o lawenydd na welodd y wraig mo'i debyg ar wedd ei gŵr erioed o'r blaen. Daliai bapur newydd yn ei law, a chyn dweyd yr un gair wrth ei wraig, aeth yn mlaen i ddarllen yr hyn a barodd y fath lawenydd iddo:
Gwobr o £5, am y cywydd goreu ar—— Deg o ymgeiswyr. Y goreu oedd Clywedog, sef Mr. Henry Hughes, ger B——."
"Dyna i ti,'ngeneth i," meddai Harri, gan daraw cusan ar wefus ei wraig. "Enill pum' punt y tro cyntaf erioed i mi dreio am wobr!"