Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Da iawn wir," meddai hithau. "Ond yr wyf fi'n meddwl yn sicr dy fod wedi gwneyd mwy o ddrwg i dy iechyd na wna pum' punt o les, ar ol studio. Mae cleisiau duon dan dy lygaid, byth er's pan rois di dy ben at brydyddu."

"Pw! fe gilia y rhei'ny i ffwrdd fel ia o flaen gwenau haul, ar ol i'r pwnc yma fyn'd trosodd, ac i minau fod yn fuddugol fel hyn."

Eisteddodd Harri i lawr yn nghanol ei deulu hoff, ac ystyriai ei hun yn frenin bach. Teimlai fod cwpan ei hapusrwydd yn llawn hyd yr ymylau. Bwytaodd ei ymborth parotoedig—llyncodd ei wydriad arferol o whiskey, ac estynodd ei bibell i ddechreu ysmocio catiad neu ddau.

Aeth y wraig i barotoi'r plant i'w gwelyau. Dywedodd y ddau hynaf eu pader mewn llais addolgar, ac aethant i orwedd yn dawel. Adroddai Harri Huws rai o helyntion y dydd, ac elai'r wraig yn mlaen i drwsio par o hosanau cochddu'r ddafad iddo.

Teimlai Harri ryw syched mwy nag arferol-estynodd y botel a gadwai yn nghongl y cwpbwrdd, a dechreuodd ail lenwi'r gwydr. Ni welwyd mono'n gwneyd hyny erioed o'r blaen; a theimlodd ei wraig yn ddwys yn awr, wrth ei weled yn tori ar ei reol. Gwelodd Harri ei phryder, a meddyliodd unwaith am roi'r gwirod yn ol yn y botel heb ei brofi. Ond rhag ofn y buasai hyny yn weithred annewr ac annynol, cododd y gwydryn at ei wefusau, a llyncodd y cynwysiad yn fuddugol.

Dyna'r tro cyntaf iddo yfed dau wydriad y naill ar ol y llall. Wyddom ni ddim pwy roddai ei air bellach na fydd iddo droi'n feddwyn. Dyna fel yr ydym ni yn gweled braidd bob dyn cymedrol yn myned yn y diwedd.

Nos Nadolig, aeth Harri Huws i'r dref. Yfodd dri gwydriad o whiskey, ac arosodd yno braidd yn hwy nag y bwriadai. Ar ei ffordd adref, efe a gyfarfyddodd â'r cymdeithion ieuainc hyny, â pha rai y mae'r darllenydd eisoes yn lled gydnabyddus. Dangosai rhai o honynt eu hunain yn falch am fod un o'u cymydogion hwy wedi enill yn yr eisteddfod; ac wedi cyfhwrdd â'r tant hwnw yn malchder Harri Huws, perswadiasant ef i fyned gyda hwynt i'r swper.

Nid aeth ef adref ar ol i'r swper fyned trosodd. Yr oedd yn feddw! Ni threuliodd Elin Huws noson hebddo ef er pan briodasant, hyd y tro hwn. Gall gwragedd tyner-galon Cymru gydymdeimlo â hi, a dychymygu'n well nag y gallwn ni ddesgrifio yr ingoedd a dreiddient trwy ei henaid wrth wylied yno tan doriad y wawr dranoeth am ddychweliad ei gŵr.