Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth i'r dref i chwilio am dano wyth o'r gloch y boreu. Cafodd hyd iddo'n rafio yn mharlwr y White Horse. Er meddwed oedd, cywilyddiodd wrth weled ei wraig. Aeth adref gyda hi heb lawer o wrthwynebiad. Ond ni arosodd yno ddim hwy nag y gwaghäodd y botel whiskey. Aeth yn ei ol yn mhen ychydig oriau. Cafodd flas ar feddwi; a phwy a allai ei atal yn awr? Nid gwraig na phlant!

Bu'n feddw am chwe' diwrnod cyfain heb gyfarfod â'r un anhawsder i dalu am gymaint o ddiod ag a chwennychai. Yn mhen y chwe' diwrnod yr oedd ei arian i gyd wedi myned, rhwng gwario, tretio, a cholli.

Bore'r seithfed dydd o'r sbri, safai â gwyneb llwyd a dillad lleidiog, o flaen bar y White Horse. Yr oedd braidd ar dân o eisieu ychwaneg o ddïod, ac ni feddai yr un ffyrling i gael ychwaneg, ac ni roddai gwraig y gwestdy ddim iddo.

"Un glasiad o rum!" meddai, gan estyn ei law mewn awch ac awydd.

"Dim dafn 'chwaneg heb arian!" oedd yr ateb.

" Un glasiad, er mwyn Duw! talaf yfory gyn wired a'm geni."

"Dim diferyn! Heblaw hyny, Henry, yr wyf yn dweyd wrthych am gadw draw oddi wrth y tŷ yma. Nid oes arnom eisiau gwel'd eich gwyneb. Yr ydych yn gywilydd eich gweled. Felly, peidiwch a rhoi 'ch troed dros drothwy'r drws yma, hyd nes sobri. Mae'n ddigon am garictor y tŷ i neb wel'd y fath furgyn yn y lle. Ewch allan!"

"Mae hona'n iaith go galed, Mrs. Martin," meddai Harri, "a finau wedi gwario cymaint yma. Ond dowch! peidiwch bod mor front! 'Drychwch ar fy llaw!—fel y mae'n crynu! Rhaid i mi gael rhywbeth i wneyd hon yn sâd yn ei hol, neu fe fydd wedi darfod am danaf!"

"Dywedais unwaith—ddwywaith—na chaech yr un dafn genyf fi; ac mi ddaliaf at fy ngair," meddai'r dafarnwraig drachefn. "Ac os nad ewch allan y mynud yma, mi alwaf y policeman i'ch rhoi'n ddigon sâff. Hwdiwch, John!" Galwai ar ei gŵr, yr hwn a ddigwyddodd fod yn pasio heibio" taflwch y llypryn dyn yna allan; ni chaiff neb lonydd ganddo."

"Holo, Huws!" ebe'r gwr—" beth sydd, was?"

"Eisiau un glasiad o rum ar goel-dyna'r cwbwl."

"Yr unig beth a gei di genyf fi yw gorchymyn i fyn'd allan"