Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ochrau yr hen bobl anafu wrth chwerthin, daeth y forwyn i'r ystafell i ddweyd fod rhyw greadures o ddynes, garpiog, ac anwydog, yn sefyll wrth ddrws y cefn, eisieu gweled y feistres. Nid oedd neb parotach i wrandaw ar gwyn, ac i esmwythau gofidiau'r tlawd a'r trallodus, na'r foneddiges hawddgar; a dywedodd wrth y forwyn,

"Gollwng hi i fewn, a dywed y deuaf ati yn ddioed." Wedi i Mrs. Powel fyned i lawr at y ddynes, cyfarchodd y ddyeithres hi gan ddywedyd,

"Oh, mistres bach, mae dynes druenus yn byw yn yr un tŷ lodging a mi, bron a marw; mae'r doctor wedi ei rhoi i fyny; ond y mae hi yn siarad o hyd am Mrs. Powel, ac eisiau ei gwel'd hi garw. Yr ydan ni'n meddwl fod gynddi rywbeth trwm ar ei meddwl eisio 'i ddeud."

"Yn mha strŷd yr ydych yn dweyd ei bod?" gofynai Mrs. Powel.

"Yn strŷd y Ffynnon."

Cofiodd y foneddiges fod honno'n un o'r heolydd o'r nodweddiad gwaethaf; ac ofnodd braidd fyned yno. Aeth at ei gŵr i ofyn ei gynghor. Dywedodd yntau,

"Ewch yno ar bob cyfrif; ac mi a ddeuaf fi a Llewelyn gyda chwi; cewch chwi fyned i mewn i'r tŷ, ac aroswn ninau o'r tuallan i'ch dysgwyl, fel ag i fod wrth law os bydd anghen."

Aeth Mrs. Powel yn ol at y ddynes, gan ei hysbysu y dilynai hi'n ebrwydd.

Wedi cyrhaedd y fan, arweiniwyd y foneddiges i fyny grisiau gridwst, trwy ganol budreddi mawr ac arogl afiach, i'r ystafell lle y gorweddai y ddynes sal. Canfyddodd yno rhyw hen wrach yn ceisio gwthio llwyaid o physic i lawr gwddf y druanes, ond methai hi a'i lyncu.

Cyn gynted ag y gwelodd y llances sal ac anffodus, fod Mrs. Powel wedi dyfod i'r ystafell, hi a lefodd yn groch, "Oh, Ma'm, chi nygodd i yma!—chi nygodd i yma!" Aeth Mrs. Powel yn mlaen at erchwyn y gwely, dan grymu, a gofynodd, beth oedd hi yn ei feddwl wrth hyny. "Oh!" meddai'r llances drachefn; "gwae erioed i mi ddod yma; ac ni faswn ni ddim wedi d'od oni b'a chi!"

"Beth wnaethum i tuag at eich dwyn i'r fath gyflwr, druan bach?" gofynai y foneddiges.

"Ond, o ran hyny," ychwanegai'r ddynes anffodus, fel pe buasai heb glywed y cwestiwn diweddaf, "nid oeddych yn meddwl dim drwg; felly'rwy'n maddeu i chi. Ond cofiwch, mai chi nysgodd i i yfed; ac oni ba'i hyny, faswn i ddim yma heiddiw!"