braidd nad ellid tybied fod rhyw elyn wedi cael caniatâd i weithio 'i ffordd dan sylfeini'r tŷ o bridd, a'i fod yn ei dynu i lawr yn raddol; neu ynte paham y rhaid fod ei law yn crynu? Ofnai ei hen fodryb mai afiechyd oedd ar y Ilanc; ond ni thybiodd am foment mai afiechyd diod gadarn.
Ar ei fodryb yr oedd yn byw, a a dysgwyliai dy gael cyfoeth mawr ar ei hol, pan elai'r hen wrach allan o'r ffordd, i fysg y meirwon. Ac yna, addawai iddo 'i hun, fine life, chwedl yntau.
"Welsoch chi'rioed fel y mae Llewelyn Parri wedi altro ar ol marwolaeth ei fam?" ebe Bili Vaughan wrth ei gyfaill. Y mae'n actio'r sant byth er hyny mor berffaith a'r un pregethwr."
"Gadewch iddo—mae hyny'n eithaf i ddallu tipyn ar lygaid yr hen Bowel."
"Botheration! braidd nad wyf fi yn cenfigenu wrtho. Byddai Llewelyn yn arfer bod yn un o honom ni; ond yn awr, y mae wedi troi'n wrthgiliwr. Ond synwn i ddim nad yw yn llygad ei le er hyny."
"Yn llygad ei le! Ai peth yn ei le ydych chwi yn galw peth fel yna? O'm rhan fy hun, yr wyf yn tosturio dros y bachgen, ac yn bwriadu troi'n genadwr i geisio cael ganddo adael ei ffyrdd ynfyd, a dychwelyd at bleserau ei hen gyfeillion."
" Yr ydych yn bur hunanymwadol, yn siwr!"
"Hunanymwadol neu beidio," atebai Ffrederic Jones canys dyna oedd ei enw—"mae'n anghyson â fy nghredo fi edrych ar ddyn ieuanc o dalent mor gymdeithasgar yn difa 'i amser a'i dalent hefo pethau nad ydynt gymhwys ond i hen grystiau sychion o ddynion i'w cyflawni!"
"Ond yr wyf fi'n barnu fod Llewelyn Parri'n gwneyd gwell defnydd o'i dalent a'i amser na'r un o honom ni ein dau," meddai Bili.
"Wel, cymaint sydd genyf fi i'w ddweyd ar y pwnc yw, fy mod yn penderfynu ei dynu o'i lwybr presennol, pa un bynag ai fo ai fi sy'n iawn Fedraf fi ddim goddef edrych arno'n byw mor sanctaidd a hynyna, ychwaith."
"Beth gebystr sydd rhyngddo chwi âg ef? Nid ydych yn hoffi dim drwg iddo? O'm rhan fy hun, fynwn i ddim llawer niweidio blewyn o wallt ei ben."
"Pw lol—niweidio!—pwy sy'n meddwl am ei niweidio? 'Does dim byd rhyngwyf fi âg ef, ond fy mod yn grynsio na fuaswn i yn ei esgidiau ef. Dyna fo—bydd cyn pen tri mis yn un-ar-ugain oed, a daw holl gyfoeth ei dâd i'w