feddiant yn un lwmp. Heblaw hyny, mae'r hen Bowel yn ymddangos mor hoff o hono fe, mae'n fwy na thebyg y bydd i'r hen law ei wneyd yn aer i'w eiddo yntau. Mae hyny'n eitha' da. Ond pan gofiaf fy mod i'n hongian wrth odreu culion rhyw hen wrach o fodryb grintachlyd, yr hon a all fyw mil o flynyddoedd eto i boeni fy enaid, a gwneyd fy mywyd yn fwndel o wermod i mi-y mae edrych ar Llewelyn Parri'n ormod i mi i'w ddal. Ac yr wyf yn yn penderfynu hefyd tori tipyn ar ei grib cyn bo hir." "Y mynyd yma' roeddych yn son am fod yn gyson a'ch credo. Mi 'ch cynghorwn chwi hefyd i geisio cael gan eich geiriau fod yn gyson â'u gilydd. Dywedasoch nad ydych yn meddwl am niweidio Llewelyn Parri; a chyn gorphen eich stori, mynwch dyngu y torech dipyn ar ei grib!"
"Mi wnaf hyny hefyd, pa un bynag ai cysondeb ai anghysondeb fydd hyny!"
"Peidiwch bod yn ffwl! gadewch i'r llanc lonydd. Mae'n dda iawn genyf ei fod yn dod yn mlaen cystal, ac ni fynwn er llawer ei weled yn troi'n feddwyn yn ei ôl. Gall Llewelyn fod, cyn pen ychydig amser, yn ogoniant i'n tref, os parha i fyned yn mlaen am ychydig amser fel y mae'n myned yn awr."
"Aed yntau, ddywedaf fi. Ac ni hidiwn i ddim a rhoi pwl o dano fo i'w helpu i fyned i ben pinagl anrhydedd. Ond, cofiwch fy nghyfaill, y peth sydd yn fy ngolwg i yn awr yw hyn y mae pwrs Llewelyn yn drymach na'n pyrsau ni, pan mae ein hangenion ni'n llawn cymaint a'r eiddo ef."
"Gwir; ond ei eiddo cyfiawn ef yw ei bwrs a'r hyn oll sydd ynddo-eiddo wedi ei enill trwy flynyddoedd o ddyfalwch o ochr ei dad, ac megis wedi ei gysegru â gwaed calon yr anffodus Meredydd Parri. Braidd na ddywedwn wrthych mai gwerth gwaed ydynt!"
"Peidiwch ceisio codi ysbrydion i fy nychrynu oddi wrth fy mhlan. Y mae gan Llewelyn Parri fwy nag a wna'r tro iddo; ac waeth iddo ef dalu am ein diod a'n pleserau ni na rhywun arall-talu raid i rywun!"
"Haelionus iawn! Ond nid syniad sâl mo hwna, chwaith."
"Sâl! glywsoch chwi fi yn dweyd rhywbeth sâl erioed pan fyddai nodweddiad, pleser, ac anrhydedd fy nghyfeillion a fy hunan yn gofyn cymhorth fy nghynlluniau? A chyn wired ag fod arian yn anghenrheidiol tuag at gadw i fynu ein rhwysg a'n mwyniant, yr wyf yn sicr o gael gan