Llewelyn Parri ddyfod yn mlaen i offrymu ei gyfran." A llyncai Ffrederic Jones ei wydraid brandi gyda golwg buddugoliaethus.
"Mae arnaf ofn eich bod yn addaw gormod, fy nghyfaill," meddai Bili. "Efallai nad ydych yn gwybod am adduned Llewelyn i'w fam ar ei gwely angau. A gwyddoch hefyd mai nid peth hawdd fyddai gwneyd ffwl o Llewelyn Parri os bydd yn sobr."
"Ond ei feddwi yw'r hyn sydd genyf fi mewn golwg. A pha mor gryf bynag y dichon ei adduned i'w fam fod, gwnaf iddo ei thori. Y mae gan y byw fwy o ddylanwad ar ddynion na'r marw. Dowch, llynewch y glasiad yna, ac mi a alwaf am un arall."
"Ac mi wnewch i Llewelyn Parri dalu am dano?" "Pw! yr wyf yn sicr pan gawn Llewelyn i'n mysg, y bydd cystal genych chwi gael share o'r mwyniant a'r un o honom."
"Digon tebyg," meddai Bili. "Ond sut yr ydych yn bwriadu ei gael? Yr wyf fi wedi ei gyfarfod tua haner dwsin o weithiau yn ddiweddar, ac wedi methu bob tro cael ganddo droi gyda mi i gael glasiad."
"Ho! y mae genyf blan ag y bydd i mi fforffetio cymaint oll ag sydd ar fy helw os metha. Bydd Llewelyn Parri ar ei sbri cyn pen y pythefnos!"
Galwodd Ffrederic Jones am wydraid arall i bob un; yfodd y ddau lanc hwynt, ac ymadawsant â'u gilydd am y noson.
PENNOD XII.
DYCHWELAI Llewelyn Parri o'r wlad, un prydnawn, ar ol bod yn edrych tipyn o gwmpas y fferm Brynhyfryd-yr hon a ymddiriedid i hen was ffyddlon i deulu Llewelyn, i'w chadw a'i hymgeleddu, hyd nes y byddai ein harwr yn dymuno myned yno i fyw ei hunan. Cafodd ei gadw'n hwy nag y bwriadai, ac yr oedd wedi deg o'r gloch y nos cyn iddo ddychwelyd i'r dref. Yr oedd yn noson dywyll ac yn wlawog iawn. Cerddai Llewelyn at y tŷ yn gyflym, mewn awydd am beidio gadael i'w chwaer a'i warcheidwad fod mewn pryder yn ei gylch, wrth ei weled mor hir heb ddychwelyd.
Fel yr oedd yn troi o gwmpas congl yr heol a arweiniai