Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

at dŷ Mr. Powel, clywodd waedd, megys gwaedd merch. Rhedodd at y fan, a gwelai lances yn ymdrechu a dyn, yr hwn a geisiai ei gorthrechu. Teimlodd ein harwr ei waed yn berwi yn ei wythïenau o ddigofaint—rhuthrodd ar y cnaf, yr hwn, wrth ei weled, a dybiodd yn briodol gollwng ei afael o'i ysglyfaeth a gwneyd y goreu o'i draed. Oni ba'i iddo wneyd hyny, buasai wedi cael teimlo pwys dyrnod Llewelyn yn ei wneyd yn gydwastad â'r llawr. Neidiodd ein harwr at yr eneth, yr hon oedd wedi syrthio mewn llewyg. Cododd hi i fyny'n ebrwydd, ac wrth edrych ar ei gwyneb prydferth, yr hwn oedd yn gwisgo ymddangosiad o fraw mawr, yn ngoleu'r lamp, efe a lefodd,—

"Gwarchod pawb! Pwy a pha beth ydych? a sut y daethoch i'r trwbwl yma?"

Yr eneth ddychrynedig, yr hon erbyn hyn oedd yn dechreu dyfod ati ei hun o'r llewyg, a dorodd allan i wylo. Yn mhen ychydig fynydau, hi a ddywedodd,"Oh, syr, yn mh'le yr ydwyf?"

"Yr ydych yn ddiogel oddiwrth ychwaneg o greulondeb yn awr, pa fodd bynag," atebai Llewelyn.

"Oh fy mam!—fy mam!—cym'rwch fi adref at fy mam, neu mi fydd farw cyn i mi ei gweled!"

"Pwy yw eich mam? a pha fodd y daethoch i'r fan hon yr amser yma ar y nos?"

Ymdrechai'r llances drallodus gasglu ei meddyliau yn nghyd, a dywedodd,

"Daethum allan i chwilio am y doctor, i ddyfod at fy mam, a chyn gynted ag y daethum gyn belled a'r gongl yma, rhuthrodd rhyw ddyn ataf, yr hwn a wnaeth i mi gynygiadau anfoesol; ac o herwydd i mi ei wrthwynebu, ymosododd arnaf yn greulon. Oh, syr, cymerwch fi gartref—yr wyf yn teimlo fy hun bron a syrthio—a Duw a dalo i chwi!"

Toddodd calon Llewelyn o'i fewn o dosturi. Rhedodd ei feddwl yn ebrwydd at Gwen ei chwaer, gan ofyn iddo 'i hun, beth pe buasai rhywun yn gwneyd felly iddi hi. Aeth bron yn wallgof wrth feddwl am y fath dro cachgiaidd, annynol. Gofynodd i'r llances yn mha le yr oedd hi'n byw. Enwodd hitha ryw heol gefn yn nghanol y dref.

Cyrhaeddasant y man desgrifiedig. Safodd yr eneth gyferbyn a thŷ oedd yn ymddangos fel yn union o'r tu cefn i'r Blue Bell Tavern, lle yr ymgynullai yr hen gymdeithion meddw'n fynych i gydswpera. Gofynodd y llances iddo mewn llais addfwyn,

"Oh, dowch gyda mi i'r tŷ, rhag ofn fod fy mam wedi