Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

heno, o herwydd digon tebyg iddo feddwl nad oedd neb yn yr ystafell pan ddaeth i fewn gyda'i fenyw." A chan droi at Llewelyn, ychwanegodd—"Mae arnoch gywilydd o'r cwmpeini a ddaeth gyda chwi i'r ystafell, Mr. Parri, onid oes?"

Gwyddai'r cnâf beth a wnaethai'r tro i gael gan Llewelyn droi yn ei ol. Rhoddodd winc ar Ffrederic Jones a Billi Vaughan i gario'r pwnc yn mlaen.

"Profodd eich cyfeilles yn anffyddlon i chwi'r tro yma," sylwai Ffrederic.

"Dewch i mi glywed tipyn o'ch helynt," meddai Bili. "Foneddigion!" llefai Llewelyn, a'i lygaid yn melltenu mewn cynddaredd wyllt—"nid wyf yn gwybod yn iawn pa beth i'w ddweyd na'i wneyd. Ond y mae arnaf ofn fod dichell yn hyn oll. Gwrandewch arnaf!"

"O gwnawn siwr," meddai'r cwmpeini. "Gosteg, tra bo Mr. Parri'n myned dros ei hanes!"

"Cym'rwch wydraid o frandi i ireiddio'r corn cyn dechreu ar y ddarlith," meddai Ffrederic Jones, gan estyn y gwirod iddo.

"Nid oes arnaf eisiau cynorthwy hwnyna i hyrwyddo fy ymadrodd," meddai Llewelyn; "ond rhag i chwi feddwl fy mod yn ffwl nac yn gachgi,———" cymerodd y gwydr o law ei faglwr, ac i lawr â'r brandi mewn amrantiad llygad.

Y foment y llyncodd ef y gwirod, rhuodd ei gydwybod daranau o gyhuddiadau o'i fewn, nes gwneyd iddo lefain yn eigion ing ei enaid, er y dichon na thorodd allan mewn geiriau,

"Dduw mawr! pa beth a wnaethum? A yw fy mam yn gweled hyn oll?"

Ond fe gymerodd Mr. Jones ddigon o ofal am wneyd y brandi'n ddigon cryf i'r dyben iddo godi i ben y llanc hyny yn gynt, a'i feddwi. Ni chafodd ei siomi yn ei amcan. Cyn pen y deng mynyd, yr oedd Llewelyn Parri wedi anghofio pob peth yn nghylch ei fywyd blaenorol—ei fam—ei addewid—ei chwaer—a'i benderfyniadau mynych i fyw'n sobr. Cododd y gwydraid cyntaf flys am un arall —ac un arall—ac felly yn mlaen, nes iddo feddwi. Galwodd Llewelyn am y fath gyflawnder o wirod i'r cymdeithion hefyd, nes iddynt hwythau oll fyned i'r un cyflwr ag yntau. Ni ymadawsant o'r ystafell tan y boreu.

Pan ddaeth y boreu, yn lle myned, gyda gwyneb euog, adref i dderbyn cerydd Mr. Powel a maddeuant Gwen, arosodd yn y dafarn. Tretiai bob un a ddeuai i fewn.