Ac wedi darfod hynny, Lludd Frenin a
barodd arlwy gwledd ddirfawr ei maint. Ac
wedi ei bod yn barod, gosododd gerwyn yn
llawn o ddwfr oer ger ei law. Ac efe ei hun
a'i gwyliodd. Ac fel yr oedd
felly yn wisgedig o arfau, oddeutu'r drydedd wylfa o'r nos, wele,
clywai lawer o ddiddanau godidog, ac amryw gerddau, a hûn yn
ei gymell yntau i gysgu. Ac ar
hynny, beth wnaeth Lludd rhag ei rwystro
ar ei amcan, a rhag i hûn ei orthrymu, ond
mynd yn fynych i'r dwfr. Ac yn y diwedd,
wele ŵr dirfawr ei faint, yn wisgiedig o
arfau trymion cadarn, yn dyfod i fewn, a
chawell ganddo, ac megis yr arferai, rhoddodd yr holl ddanteithion a'r arlwy o fwyd a
diod yn ei gawell. Ac yna cychwynnodd âg
ef ymaith. Ac nid oedd dim rhyfeddach
gan Ludd nac fod ei gawell yn cario cymaint
a hynny. Ac ar hynny Lludd Frenin a
gychwynnodd ar ei ol, ac a ddywedodd
wrtho fel hyn,-
"Aros, aros," ebe ef, "er i ti wneyd llawer o golledion a sarhad cyn hyn, ni wnei ychwaneg oni farn dy filwriaeth dy fod yn drech ac yn ddewrach ymladdodd na mi."

Ac yn ebrwydd yntau a ddodes y cawell ar y llawr, ac arhosodd i Ludd ddod ato. Ac angerddol ymladd a fu rhyngddynt onid oedd tân llachar yn ehedeg o'u harfau. Ac o'r diwedd, ymafael a wnaeth Lludd ynddo, a'r dynged-faen a roddodd y fuddugoliaeth i Ludd, gan fwrw yr ormes rhyngddo a'r ddaear. Ac wedi gorfod arno o rym ac angerdd, gofyn nawdd Lludd a wnaeth.