Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wylio dy wleddoedd a'th arlwyau. A rhag gorfod o'i gysgu ef arnat, boed cerwynied o ddwfr oer ger dy law; a phan fo cysgu yn treisio arnat, dos i fewn i'r cerwyn.'

 Ac yna dychwelodd Lludd drachefn i'w wlad. Ac yn ebrwydd y cynullodd ato bawb yn llwyr o'i genedl ef ac o'r Coraniaid. Ac megys y dysgodd Llefelys iddo, briwio y pryfed a wnaeth yn y dwfr, a bwrw hwnnw yn gyffredin ar bawb. Ac yn ebrwydd y difethwyd felly holl wyr y Coraniaid heb niweidio neb o'r Brytaniaid.

Ac ymhen ysbaid wedi hynny Lludd a

barodd fesur yr Ynys ar ei hyd ac ar ei lled. Ac yn Rhydychen y cafwyd y pwynt perfedd. Ac yn y lle hwnnw y parodd dorri twll yn y ddaear, a gosod yn y twll hwnnw gerwyn yn llawn o'r medd goreu a allwyd ei wneuthur, a llen o bali ar ei wyneb. A Lludd ei hun a'i gwyliodd y nos honno. Ac fel yr oedd felly, efe a welai y dreigiau yn ymladd. Ac wedi blino o honynt, a diffygio, hwy a syrthiasant ar warthaf y llen nes ei thynnu ganddynt i waelod y cerwyn. Ac wedi iddynt yfed y medd, cysgu a wnaethant. Ac yn eu cwsg, Lludd a blygodd y llen am danynt, ac a'u dygodd i'r lle diogelaf a gafodd yn Eryri mewn cist faen. A galwyd y lle hwnnw wedi hynny, Dinas Emrys. Cyn hynny Dinas Ffaraon Dande oedd ei enw.

Ac felly y peidiodd y waedd ofnadwy oedd yn ei gyfoeth.