Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gyffredin. A chadarnhai Llefelys y gwenwynai y dwfr hwnnw genedl y Coraniaid, ac na laddai ac na niweidiai neb o'i genedl ei hun.

"Yr ail ormes," ebe Llefelys, "sydd yn dy gyfoeth di—draig yw honno. A draig o estron genedl arall sydd yn ymladd â hi, ac yn ceisio ei gorchfygu. Ac wrth hynny y dyd eich draig chwi waedd angerddol. Ac fel hyn y galli gael gwybod hynny,—pan eli adref, par fesur yr ynys o'i hyd a'i lled, ac yn y lle y cei di y pwynt perfedd, par dorri twll yn y lle hwnnw. Ac yn y twll hwnnw  par ddodi cerwynied o'r medd goreu a aller ei wneuthur, a llen o bali ar wyneb y cerwyn. Ac a'r yno bydd dy hun yn gwylio, a thi a weli y dreigiau yn ymladd yn rhith anifeiliaid aruthr. Ac o'r diwedd byddant yn rhith dreigiau yn yr awyr. Ac yn ddiweddaf oll, wedi iddynt flino'n ymladd yn angerddol ac enbyd, hwy a syrthiant yn rhith dau barchell ar y llen, ac a suddant yn y llen gan ei thynnu hyd i waelod y cerwyn. Ac yfant y medd i gyd, ac wedi hynny cysgant. Ac yna, ar unwaith, plyga dithau y llen am danynt; ac yn y lle cadarnaf a geffi yn dy gyfoeth cladd hwy mewn cist faen, a chudd yn y ddaear. A hyd tra bont hwy yn y lle cadarn hwnnw, ni ddaw gormes i Ynys Prydain o le arall."

"Achos y trydydd ormes yw," ebe Llefelys, "gŵr lledrithiog cadarn sydd yn dwyn dy fwyd, a'th ddiod, a'th wledd. Trwn yw ei hud, a'i ledrith a bâr i bawb gysgu. Ac am hynny y mae yn rhaid i tithau dy hun