Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HANES TALIESIN

GWR bonheddig oedd gynt ym Mhenllyn elwid Tegid Foel, a'i drefdadaeth oedd yng nghanol Llyn Tegid. A'i briod wraig a elwid Ceridwen. Ac o'r wraig honno y ganed mab a elwid Morfran ab Tegid, a merch a elwid Greirfyw,—a thecaf merch yn y byd oedd honno. A brawd iddynt hwy oedd y dyn hagraf  yn y byd,—Afagddu. Am hynny Ceridwen ei fam a feddyliodd nad oedd ef debyg i gael ei gynnwys ymhlith bonheddigion am ei fod mor hagr, oni feddai ryw gampau neu wybodau urddasol. Canys yn nechreuad Arthur a'r ford gron yr oedd hynny.

Ac yna yr ordeiniodd hi trwy gelfyddyd llyfrau fferyllydd i ferwi pair o Awen a Gwybodau i'w mhab, fel y byddai urddasach ei gymeriad am ei wybodau am y byd na neb.

Ac yna y dechreuodd hi ferwi y pair, yr hwn wedi y dechreuid ei ferwi ni ellid torri y berw hyd dan ben un dydd a blwyddyn, ac om cheffid tri defnyn bendigedig o rad yr ysbryd. A Gwion Bach, mab Gwreang o Lanfair yng Nghaer Einion ym Mhowys, a roes hi i amodi y pair, a dall a elwid Morda i gynneu y tân dan y pair. A gorchymyn