Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

 roddodd na adawai i'r berw dorri hyd pan ddelai undydd a blwyddyn.

A hithau, Ceridwen, drwy lyfrau astronomyddion ac wrth oriau y planedau, oedd yn llysieua beunydd o bob amryfael lysiau rhinweddol. Ac fel yr oedd Ceridwen un dydd yn llysieua yn agos i ben blwyddyn, y damweiniodd neidio a syrthio o dri defnyn o'r dŵr rhinweddol o'r pair ar fys Gwion Bach. Gan fod ei fys mor boeth, tarawodd ef yn ei ben, a chan gynted ac y tarawodd y defnynnau gwerthfawr hynny yn ei ben, gwyddai bob peth a ddigwyddai. Ac efe a adnabu yn union mai mwyaf gofal iddo ef oedd dial  Ceridwen, canys mawr oedd ei gwybodau. A rhag dirfawr ofn, efe a ffodd tua'i wlad. A'r pair a dorrodd yn ddau hanner, fel y gwenwyn- wyd meirch Gwyddno Garanhir am iddynt yfed y dŵr o'r aber y rhedodd y dŵr o'r pair iddi, oherwydd y dŵr i gyd oedd wenwynig oddi eithr y tri defnyn rhinweddol. Ac am hynny y gelwir yr aber o hynny allan Gwenwyn feirch Gwyddno.

Ac ar hynny daeth Ceridwen i fewn, ac wrth weled ei llafur er ys blwyddyn yn golledig, tarawodd y dall Morda ar ei ben oni aeth un o'i lygaid ar ei rudd. Sef y dywed ynte,

"Drwg i'm hanffurfiaist, a minnau'n ddiniwaid; ni buost golledig o'm hachos i."

"Gwir a ddywedaist," ebe Ceridwen,

"Gwion Bach a'm hysbeiliodd i."

A chyrchu ar ei ol dan redeg a wnaeth.

A'i chanfod hithau a wnaeth Gwion Bach,