Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

 ac a ymrithiodd yn rhith ysgyfarnog a rhedodd. Rhithiodd Ceridwen yn filast, ac ymlidiodd ef tuag afon. Yna Gwion Bach a ymrithiodd yn bysgodyn, a hithau a ymrithiodd yn ddyfrast, ac a'i ceisiodd ef dan y dwfr, oni fu raid iddo ymrithio'n aderyn i'r wybr. Hithau a rithiodd yn walch i'w ymlid, ac ni adawodd iddo lonydd yn y wybr; a phan oedd yn ei ddal—ac yntau âg ofn angau arno, efe a ganfu dwr o wenith nithiedig ar lawr ysgubor, a disgynnodd i'r gwenith, ac a ymrithiodd yn rhith un o'r grawn. Ac yna ymrithiodd Ceridwen yn iar ddu gopog, ac i'r gwenith yr aeth, ac â'i thraed ei grafu a'i adnabod ef, a'i lyucu.

Ac fel y dywed yr ystori, ymhen y naw mis ganwyd mab iddi, ac ni allai ei ladd gan mor deg oedd. Ond rhoddodd ef mewn llestr croen, ac a'i bwriodd i'r môr y nawfed ar hugain o Ebrill.

Ac yn yr amser hwnnw yr oedd cored Gwyddio yn y traeth rhwng Dyfi ac Aber— ystwyth, gerllaw ei gastell ei hun. Ac yn y rhwyd honno y ceid cywerth can punt bob nos Galanmai.

Ac yn yr amser hwnnw yr oedd un mab i Wyddno a elwid Elphin, un o'r rhai mwyaf diwaith o'r ieuenctid, a mwyaf o eisiau arno. Ac fel yr oedd felly, tybiai ei dad ei eni ar awr ddrwg. Ac am iddo ofyn yn daer, rhoddodd ei dad iddo dyniad y rhwyd y flwyddyn honno, i edrych a ddamweiniai iddo ras byth, ac i ddechreu gwaith iddo. A thrannoeth edrychodd Elphin, ond nid