Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd dim ynddi; ond wrth fynd i ffordd canfu y llestr croen ar bolyn y rhwyd. Yna y dywedodd un o'r rhwydwyr wrth Elphin,—

 "Ni buost ti anhapus erioed hyd heno, canys ti a dorraist arferiad y rhwyd yn yr hon y ceid ynddi werth can punt bob nos Galanmai, ac nid oedd heno namyn y croenyn hwn."

"Beth yn awr," ebe Elphin, "feallai fod yma gyfwerth can punt o dda?"

Datod y croen a wnaethpwyd, a chanfod o'r agorwr dalcen mab, ac a ddywedodd wrth Elphin,—

"Llyma dal iesin!"

"Taliesin boed ef," eb yr Elphin, a dyrchafodd y mab rhwng ei ddwylo, gan. gwyno anhap iddo, ac a'i cymerodd yn brudd, a gwnaeth i'w farch, oedd o'r blaen yn tuthio, gerdded yn araf, ac arweiniai ef mor esmwyth a phetai yn eistedd mewn cadair esmwythaf yn y byd.

Ac yn fuan ar ol hynny y gwnaeth y mab Taliesin gân o foliant i Elphin, a phroffwyd— odd urddas iddo. Daeth Elphin â Thaliesin ganddo i lys Gwyddno ei dad. A gofynnodd Gwyddno iddo,—

"Ai da y caffaeliad yn y rhwyd?"

Yntau a ddywedodd wrtho gaffael peth oedd well na physgod.

"Beth oedd?" ebe Gwyddno.

"Bardd," ebe yntau, Elphin.

Yna y dywedodd Gwyddno,—

"Och druan! Beth a dâl hwnnw i ti?" Yna yr atebodd Taliesin ei hunan, ac ddywedodd,—