Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ef a dâl hwn iddo ef fwy nag a dalodd y rhwyd erioed i ti."

Yna y gofynnodd Gwyddno iddo, —

 "A fedri di ddywedyd, a chyn fychaned ag wyt?"

Yna yr atebodd yntau, Taliesin, ac a ddywedodd,—

"Medraf fi ddywedyd mwy nag a fedri di ofyn i mi."

Yn y man rhoddodd Elphin ei guffaeliad i'w wraig briod, yr hon a'i magodd ef yn gu ac yn anwyl. Ac o hynny allan yr amlhaodd golud Elphin well well bob dydd ar ol eu gilydd, ac o gariad a chymeriad gyda'r brenin.

Ac yno y bu Taliesin onid oedd yn dair ar ddeg oed. Yna yr aeth Elphin ab Gwyddno ar wadd Nadolig at Faelgwn Gwynedd ei ewyth, yr hwn, ymhen ychydig amser wedi hyn, oedd yn cynnal llys agored o fewn Castell Deganwy ar amser Nadolig.  A'i holl amlder arglwyddi o bob un o'r ddwy radd—ysbrydol a bydol,—oedd yno, gyda lliaws mawr o farchogion ac ysweiniaid, ymhlith y rhai y cyfodai ymddiddan trwy ymofyn a dywedyd fel hyn,—

"A oes yn yr holl fyd frenin mor gyfoethog a Maelgwn—wedi i'r Tad o'r nef roddi cymaint o eiddo iddo ag a roddodd Duw iddo o roddion ysbrydol? Yn gyntaf, —pryd a gwedd, ac addfwynder a nerth, heblaw cwbl o alluoedd yr enaid." A chyda y rhoddion hyn, hwy a ddywedent fod y Tad wedi rhoddi iddo ef un rhodd ragorol,— yr hon, yn wir, a basiai y rhoddion eraill i gyd, yr hyn sydd i'w draethu ym mryd a gwedd ac ymddygiad a doethineb a di-