weirdeb ei frenhines. Yn y rhinweddau yr oedd hi yn rhagori ar holl arglwyddesau a merched bonheddigion yr holl ynys. Pwy ddewrach ei wyr? Pwy decach a buanach ei feirch a'i filgwn? Pwy gyfarwyddach a doethach ei feirdd na Maelgwn? Y rhain yn yr amser yna a gymerid mewn cymeriad mawr ymhlith ardderchogion y deyrnas. Ac yn yr amser yna ni wneid neb o swydd y rhai heddyw elwir herald onid gwyr dysgedig, nid yn unig mewn gwasanaeth brenhinoedd a thywysogion, ond yn hyddysg am arfau a gweithredoedd brenhinoedd a thywysogion o hynafiaid y deyrnas hon yn ogystal a theyrnasoeedd dieithr,— yn enwedig hanes y tywysogion pennaf. Hefyd yr oedd yn rhaid i bawb o honynt fod yn barod eu hatebiad mewn amryw ieithoedd, Lladin, Ffrancaeg, Cymraeg, Saesneg. A chyda hyn yn ystoriawr mawr, ac yn gofiadur da, ac yn gelfydd mewn prydyddiaeth i fod yn barod i wneuthur englynion mydr ymhob un o'r ieithoedd hynny. Ac o'r rhai hyn yr oedd yn yr wyl hon yn Llys Maelgwn gymaint a phedwar ar hugain, ac yn bennaf ar y rhain yr hwn a enwid Heinin Fardd. Felly, wedi darfod o bawb foliannu'r brenin a'i ddoniau, fe a ddigwyddodd i Elphin ddywedyd fel hyn,— "Yn wir, nid oes neb yn abl i gystadlu â brenin ond brenin. Eithr yn wir oni bai ei fod ef yn frenin, myfi a ddywedwn fod i mi un bardd sydd gyfarwyddach na holl feirdd y brenin."
Dig iawn oedd y beirdd eraill wrth Elphin. A gorchymynnodd y brenin roddi Elphin mewn carchar cadarn, oni ddarffai iddo