Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wybodaeth am ei fardd ef. Yna rhoddwyd Elphin mewn tŵr o'r castell a gefyn mawr am ei draed, a dywedir mai gefyn arian oedd, am ei fod o waed brenhinol.

Dywedodd Talicsin wrth ei feistres ei fod yn myned i ryddhau Elphin. Ac aeth tua Llys Maelgwn. A phan ddaeth i'r neuadd canfu le disathr gerllaw y man y deuai y beirdd a'r gler i fewn i wneuthur eu gwas- anaeth a'u dyled i'r brenin. Ac felly yr amser a ddaeth i'r beirdd ddyfod i ganu clod a gallu y brenin a'i nerth, a daethant heibio y man yr oedd Taliesin yn crwcian mewn cornel, yr hwn a estynnodd ei wefl ar eu hol hwynt, gan chwareu blerwin blerwm â'i fys ar ei wefl. Ond ni ddaliasant hwy fawr sylw arno, ond cerdded yn eu blaen hyd nes y daethant gerbron y brenin, i'r hwn y gwnaethant hwy eu moes â'u cyrff, megis yr oedd yn ddyledus iddynt hwy i wneuthur, heb ddweyd yr un gair o'u pennau onid estyn eu gweflau a mingamu ar y brenin drwy chwareu blerwm blerwm â'u bysedd, ar eu gwellau, megis ag y gwelsent hwy y bachgen yn ei wneuthur o'r blaen. Yr olwg a wnaeth i'r brenin gymeryd rhyfeddod a syndod ynddo ei hun eu bod hwy wedi meddwi. Felly gorchymynnodd i un o'r arglwyddi oedd yn gwasanaethu ar ei ford ef i fynd atynt, ac erchi iddynt alw i'w cof a'u myfyrdod a meddwl y man yr oeddynt yn sefyll, a beth a ddylent hwy ei wneuthur. Hyn a wnaeth yr arglwydd yn llawen; ond ni bu iddynt beidio â'u gorwagedd. Felly anfonodd ef eilwaith a'r