Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drydedd waith i erchi iddynt hwy fynd allan o'r neuadd. O'r diwedd archodd y brenin i un o'r ysweiniaid roddi dyrnod i'r pennaf o honynt, y neb a elwid Heinin Fardd. A'r yswain a'i tarawodd ef yn ei ben oni syrthiodd yn ei eistedd. Yna cyfododd ar ei liniau, a gofynnodd ras y brenin a'i geunad i ddangos iddo ef nad oedd y diffyg hwnnw arnynt o nag eisiau gwybodaeth nag o feddwdod, ond o rinwedd rhyw ysbryd oedd yn y neuadd; ac yna dywedodd Heinin,—

"O frenin anrhydeddus, bid hysbys i'ch gras chwinado angerdd gormod gwirodau yr ydym yn fudion heb allu ymddiddan, fel dynion meddwon, ond o rinwedd ysbryd sydd yn eis— tedd yn y gornel acw ar swm bach o ddyn.

Yna gorchymynnodd y brenin i yswain ei gyrchu ef; yr hwn a aeth i'r gilfach yr oedd Taliesin yn eistedd, ac a'i dygodd ef gerbron y brenin. Gofynnodd y brenin iddo pa beth ydoedd, ac o ba le y daethai.

 Atebodd Taliesin ar gân. A phan glybu y brenin a'i urddasolion, synnu yn fawr a wnaethant, ac ni chlywsent o ben bachgen ei fychaned a Taliesin ellid ei debygu i'r gân hon. phan wybu y brenin mai bardd Elphin oedd ef, erchi a wnaeth ef i Heinin, ei fardd pennaf a doethaf, ddyfod ac ateb i Daliesin, ac ymorchestu âg ef. Ond pan ddaeth yno, nis gallai amgen na chware blerwm ar ei wefl. A phan ddanfonwyd y rhai eraill o'r pedwar ar hugain beirdd, yr un peth a wnaethant, am na allent yn amgen.

Yna y gofynnodd Maelgwn i'r bachgen Taliesin pa beth oedd ei neges yno. Atebodd Taliesin ar gân mai dod i ryddhau Elphin a wnaeth. Daeth yn ystorm o wynt aruthr, a gorchymynnodd Maelgwn ddwyn Elphin o'r carchar. Canodd Taliesin gân arall, nes agori o'r gefyn oddi am draed ei feistr, Elphin.


DIWEDD