Dywedaf yn llawen," ebe Owain.
"Beth yw hwn?" ebe Peredur am y cyfrwy.
"Cyfrwy yw," ebe Owain.
Ac ymofyn yn llwyr a wnaeth beth oedd y pethau a welai ef ar y gwyr, a'r meirch, a'r arfau, a pha beth fynnent â hwy, ac a allent wneyd â hwy. Owain a fynegodd iddo yn llwyr bob peth a ellid wneyd â hwy.
"Dos rhagot," ebe Peredur, "mi welais y cyfryw a ofynni dithau; a minnau a ddeuaf ar dy ol di."
Yna dychwelyd a wnaeth Peredur at ei fam a'r nifer.
"Fy mam," ebe ef, "nid angylion oedd y rhai gynneu, ond marchogion urddasol."
Yna syrthiodd y fam yn farw lewyg.
A daeth Peredur hyd y lle yr oedd y ceffylau a gludent danwydd iddynt, ac a ddygai fwyd a dwfr o gyfannedd i'r anialwch, a chymerodd geffyl brych-welw ysgyrniog a'r cryfaf debygai ef. A ffynoreg a wasgodd yn gyfrwy iddo, ac â gwyddyn dynwared y pethau a welsai ar y meirch, ac ar bopeth, a wnaeth Peredur.
A thrachefn y daeth Peredur at ei fam, ac ar hynny dadlewygu a wnaeth yr iarlles.
"Ie, fy mab, cychwyn a fynni,"
"Ie," ebe Peredur, gan dy gennad."
"Aros i mi dy gynghori cyn dy gychwyn."
"Yn llawen," ebe ef, "dywed ar frys."
"Dos rhagot," ebe hi, "i lys Arthur, "lle y mae y gwyr goreu, a haelaf, a dewraf. Lle y gweli eglwys, cân dy bader wrthi. Os gweli fwyd a diod, a'u heisiau arnat, ac na bo neb o foesgarwch a daioni