Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu rhoddi i ti, cymer hwy dy hun. Os clywi wylofain, dos yno,—a gwylofain gwraig yn anad gwylofain yn y byd. Os gweli dlws teg, cymer ef, a dyro i arall; ac o hynny clod a geffi. Os gweli ferch deg, câr hi, er na fyn di; gwell gŵr a chywirach fyddi o hynny na chynt."

Ac wedi yr ymadrodd hwnnw esgyn ar ei farch a wnaeth Peredur, a dyrnaid o bicellau blaenllym yn ei law, a chychwyn ymaith rhagddo a wnaeth. A bu ddeuddydd a dwynos yn cerdded anialwch coediog, ac amryw le diffaeth, heb fwyd ac heb ddiod. Ac yna y daeth i goed mawr anial, ac ymhell yn y coed ef a welai lannerch deg wastad, ac yn y llannerch y gwelai babell. Yr oedd yn rhith eglwys, ac ef a ganodd ei bader wrth y babell. A thua y babell y daeth. A drws y babell a oedd yn agored, a chadair euraidd yn ymyl y drws, a morwyn oleu wallt, brydferth, yn y gadair yn eistedd. Ac am ei thalcen yr oedd cadwen aur, a meini disglaer ynddi, a modrwy aur fawr am ei llaw. A disgyn a wnaeth Peredur, a dyfod rhagddo i mewn; a llawen fu y forwyn wrtho, a chyfarch gwell iddo a wnaeth. Wrth dalcen y babell ef a welai fwyd, a dwy gostrel yn llawn o win, a dwy dorth o fara càn, a golwythion o gig mel—foch. "Fy mam," ebe Peredur, "a archodd i mi pa le bynnag y gwelwn fwyd a diod ei gymeryd."

"Dos dithau, unben, yn llawen i'r bwyd, a chroesaw i ti."

Yna y cymerth Peredur hanner y bwyd a'r ddiod iddo ei hun, gan adael y llall i'r forwyn. A phan ddarfu i Beredur fwyta,