dyfod a wnaeth a gostwng ar ben ei lin ger bron y forwyn.
"Fy mam," ebe ef, "a archodd i mi lle gwelwn dlws teg ei gymeryd."
"Cymer dithau, enaid," ebe hi. Cymerodd Peredur y fodrwy; cymerodd ei farch, a chychwynnodd ymaith. Ar ol hynny dyma y marchog biau y babell yn dyfod, sef oedd hwnnw perchennog y llannerch, ac ol y march a welai,— "Dywed," ebe ef wrth y forwyn, "pwy fu yma ar fy ol i?"
"Dyn rhyfedd iawn ei ansawdd, arglwydd," ebe hi, a mynegodd ansawdd Peredur, a'r modd y teithiai, yn llwyr.
"Dywed," ebe ef, "a wnaeth efe ddrwg i ti?"
"Naddo, myn fy nghred," ebe hi, "na cham nis gwnaeth i mi."
"Myn fy nghred nis credaf; ac oni ddaliaf ef i ddial fy nghywilydd a'm llid, ni chei dithau drigo dwy nos yn fy nhŷ." A chyfodi a wnaeth y marchog i geisio Peredur.
Ac yntau, Peredur, a gychwynnodd tua llys Arthur. A chyn ei ddyfod i lys Arthur, daeth marchog arall i lys Arthur, ac a roddodd fodrwy aur fawr yn nrws y porth er dal ei farch. Ac yntau a ddaeth i'r neuadd yn lle yr oedd Arthur a'i deulu, a Gwenhwyfar a'i rhianedd. A gwas ystafell oedd yn gwasanaethu ar Gwenhwyfar o flwch aur. Yna y marchog a dywalltodd y dwfr a oedd ynddo am ei gwyneb a'i bron, gan roddi bonclust mawr i Wenhwyfar, a dywedyd,—
"Os oes neb cyn eofned a gwarafun y