Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blwch hwn i mi, a dial sarhad Gwenhwyfar, deued ar fy ol i'r weirglodd, a mi a'i harhosaf yno."

A'i farch a gymerth y marchog a'r weirglodd a gyrchodd. Sef a wnaethant,—pawb o'r teulu, gostwng eu pennau rhag gofyn i un fynd i ddial sarhad Gwenhwyfar. A thebyg oedd ganddynt na wnai neb waith cyn eofned a hynny, oni bai fod arno filwriaeth ac angerdd, neu ledrith fel na allai neb ymddial âg ef.

Ar hynny dyma Peredur yn dyfod i'r neuadd ar geffyl brych-welw ysgyrniog, a thaclau musgrell arno, ac yn anweddaidd mewn llys cyf-urdd a hwnnw. Ac yr oedd Cai yn sefyll yng nghanol y neuadd.

"Dywed, y gŵr hir," ebe Peredur, "acw mae Arthur?"

"Beth a fynní di," ebe Cai, "âg Arthur?"

"Fy mam a archodd i mi ddyfod i'm hurddo yn farchog urddol at Arthur."

"Myn fy nghred," ebe Cai, "rhy anghywir wyt o farch ac arfau."

Ac ar hynny canfu y teulu ef a bwriasant ysglodion ato.

Ar hynny, dyma ŵr yn dyfod i mewn, a ddaeth flwyddyn cyn hynny i lys Arthur, ef a chorres, i erchi nawdd Arthur, a hynny a gawsant. Ac yn ystod y flwyddyn ni ddywedasai un o honynt un gair wrth neb. A phan ganfu y corach Peredur,—

 "Haha," ebe ef, "croesaw calon i ti, Beredur deg, fab Efrog, arbennig ymysg milwyr a blodau marchogion!" "Yn wir," ebe Cai, "dyma fedr yn ddrwg,—bod flwyddyn yn llys