Arthur yn fud, yn cael dewis dy ymddiddanwr, a galw y cyfryw ddyn a hwn, yng ngwydd Arthur a'i deulu, a'i dystio yn arbennig ymysg milwyr a blodau marchogion!" a rhoddodd fonclust iddo hyd nes oedd ar lawr yn farw lewyg.
Ar hynny dyma y gorres,—
"Haha," ebe hi, "croesaw calon i ti, Beredur deg, fab Efrog, blodau y milwyr, a chanwyll y marchogion!"
"Ie, forwyn," ebe Cai, "dyma fedr yn ddrwg, bod flwyddyn yn fud yn llys Arthur, a galw y cyfryw ddyn hwn yn y modd y gelwaist!" a rhoddodd Cai gic iddi nes oedd ar lawr yn farw lewyg.
"Y gŵr hir," ebe Peredur, "mynega i'm pa le mae Arthur."
Taw a'th son," ebe Cai, "dos ar ol y marchog a aeth oddi yma ir weirglodd, a dwyn y blwch oddi arno, a thafl ef, a chymer ei farch a'i arfau, ac wedi hynny ti a geffi dy urddo yn farchog urddol."
"Y gŵr hir, minnau a wnaf hynny."
A throdd ben ei farch, ac aeth allan ac i'r weirglodd. A phan ddaeth yr oedd y marchog yn marchogaeth yn rhyfygus fel gŵr dewr urddasol.
"Dywed," ebe'r marchog, "a welaist di neb o'r llys yn dyfod ar fy ol i?"
"Y gŵr hir oedd yno," ebe ef, "a archodd i mi dy daflu di, a chymeryd y blwch a'r march, a'r arfau i mi fy hun."
"Taw," ebe y marchog, "a dos drachefn i'r llys, ac arch oddi wrthyf i Arthur ddyfod, ai ef ai arall, i ymladd â mi. Ac oni ddaw yn gyflym ni arhosaf i erfyn."