Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Myn fy nghred," ebe Peredur, "dewis di ai o'th fodd ai o'th anfodd, myfi a fynnaf y march, a'r arfau, a'r blwch."

Ac yna y cyrchodd y marchog ef yn llidiog, a gwanodd ef â blaen ei waew rhwng yr ysgwydd a'r gwddf,—dyrnod mawr dolurus.

"Aha, was," ebe Peredur, "ni chwareuai gweision fy mam â myfi felly. Minnan a chwareuaf â thi fel hyn."

Bwriodd bicell flaenllym ato, ac a'i tarawodd yn ei lygad hyd onid oedd trwy ei wegil allau, ac yntau yn farw ar amrantiad. "Yn wir," ebe Owain fab Uryen wrth Cai, "drwg a wnaethost yrru y dyn ffol ar ol y marchog. Un o ddau beth a ddigwydd iddo, ei ladd neu ei daflu; os ei daflu a ddigwydd i'r marchog, rhif y marchog ef yn ŵr mwyn o'r llys, ac anghlod dragwyddol fydd i Arthur a'i filwyr; ac os ei ladd a ddigwydd, yr anghlod a gerdda fel cynt, a'i bechod arno yntau yn ychwaneg. A dyma fy ffydd, af i wybod pa hanes yw ei eiddo ef."

A daeth Owain i'r weirglodd. A'r hyn welai Owain oedd Peredur yn llusgo y gŵr ar hyd y weirglodd.

"Beth a wnei di felly?" ebe Owain.

"Ni ddaw," ebe Peredur, "y bais haiarn byth oddi am dano, nis gallaf fi ei thynnu."

Yua diosgodd Owain yr arfau a'r dillad.

"Dyma, enaid," ebe ef, "farch ac arfau gwell na'r rhai eraill, a chymer hwy yn llawen. A thyred gyda mi hyd at Arthur i'th urddo yn farchog urddol, canys ti a'i haeddi."

"Ni chodaf fy ngwyneb os af," ebe Peredur. "Ond dwg di y blwch oddi