Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrthyf i Wenhwyfar. A dywed wrth Arthur Pa le bynnag y byddwyf fi, gŵr iddo fyddaf ac a allaf o les a gwasanaeth iddo mi a'i gwnaf. A dywed na ddeuaf i'r llys byth oni ymladdwyf y gŵr hir sydd yno, i ddial sarhad y cor a'r gorres."

Yna y daeth Owain drachefn i'r llys, a mynegodd yr hanes i Arthur a Gwenhwyfar, ac i bawb o'r teulu, a'r bygwth ar Gai.

Ac yntau, Peredur, a gychwynnodd ymaith. Ac fel yr oedd yn cerdded, dyma farchog yn ei gyfarfod.

"O ba le y deui di?" ebe'r marchog.

"Deuaf o lys Arthur," ebe Peredur.

"Ai gwr i Arthur wyt ti?" ebe ef.

"Ie, myn fy nghred," ebe Peredur.

"Yr wyt yn glynu wrth Arthur mewn lle iawn."

"Paham?" ebe Peredur.

"Mi a ddywedaf i ti," ebe ef "Gelyn fum i Arthur erioed. Ac mi a leddais bob gŵr iddo a ddaeth i'm cyfarfod."

Ni fu dim yn fwy na hynny rhyngddynt,—ymladd wnaethant. Ac ni fu hir amser cyn i Beredur ei fwrw dros grwper ei farch i lawr. Nawdd a archodd y marchog ganddo.

"Nawdd a geffi," ebe Peredur, "ond rhoddi dy lw yr ai i lys Arthur, a mynegi i Arthur mai fi a'th fwriodd er anrhydedd a gwasanaeth iddo ef. A dywed na ddeuaf byth i'r llys oni chaffwyf ddial sarhad y cor a'r gorres."

A'r marchog a roddodd ei air ar hynny, ac a gychwynnodd rhagddo i lys Arthur. Ac a wnaeth hynny, a'r bygwth ar Gai.

Ac yntau, Peredur, a gychwynnodd rhagddo. Ac yn yr un wythnos cyfarfu âg ef