un marchog ar bymtheg; ac ef, Peredur,
a'u bwriodd yn gywilyddus. Ac aethant i
lys Arthur, a'r unrhyw ymadrodd ganddynt
ac a ddaeth gyda'r marchog cyntaf, a'r un
bygwth gan Beredur ar Gai. A cherydd a
gafodd Cai gan Arthur, a phrudd fu yntau,
Cai, am hynny. Yntau, Peredur, a gerddodd rhagddo, ac a ddaeth i goed mawr
anial, ac yn ystlys y coed yr oedd llyn, ac
ar y tu arall yr oedd caer deg. Ar lan y
llyn gwelai wr llwyd bonheddig yn eistedd
ar obennydd o sidan, a gwisg o sidan am
dano; a gweision yn pysgota ar y llyn
hwnnw. Pan welodd y gŵr llwyd Peredur
yn dyfod, cyfodi a wnaeth, a cherdded tua'r
gaer. A chloff oedd yr hen ŵr. Yntau,
Peredur, a gyrchodd y llys. A'r porth oedd
yn agored, ac aeth i'r neuadd. Ac yr oedd
y gŵr gwallt wyn yn eistedd ar obennydd,
a thân mawr yn llosgi o'i flaen. A chyfodi
a wnaeth y teulu a'r nifer i dderbyn Peredur,
a diosg ei esgidiau. Ac archi a
wnaeth y gŵr i'r dyn ieuanc
eistedd ar ben y gobennydd. A
chydeistedd ac ymddiddan a
wnaethant. A phan fu amser
gosod byrddau, a mynd i fwyta, yr oedd
Peredur yn eistedd ar y naill law i'r gwr
biai y llys. Wedi darfod bwyta, gofyn a
wnaeth y gŵr i Beredur, a allai daro â
chleddyf yn dda.
"Na allaf," ebe Peredur, "pe caffwn ddysg tebyg y gallwn." "A all chware â ffon a tharian yn dda, gallasai hwnnw ymladd â chleddyf." Dau fab oedd i'r gŵr,—gwas melyn a gwas gwineu.