Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Cyfodwch, weision," ebe ef, "i chwareu â ffyn, ac a thariannau."

Ac yna i chwareu â ffyn yr aethant.

"Dywed, enaid," ebe y gŵr, "pwy oreu o'r gweision debygi di am chware?"

"Tebyg gennyf fi," ebe Peredur, "y gallai y gwas melyn wneuthur gwaed ar y llall pe y mynnai."

"Cyfod dithau, enaid, a chymer y ffon a'r darian o law y gwas gwineu, a gwna waed ar y gwas melyn os gelli."

Peredur a gyfododd, a mynd a wnaeth i chware â'r gwas melyn. A dyrchafodd ei —law, ac a'i tarawodd â dyrnod mawr hyd nes y syrthiodd yr ael ar ei lygad, —a'r gwaed yntau yn llifo.

"Wel, enaid," ebe y gŵr, "dos i eistedd bellach. Y gŵr goreu am daro â chleddyf yn yr ynys hon fyddi di. A'th ewythr dithau, frawd dy fam, wyf finnau. A chyda mi y byddi y tymor hwn yn dysgu moes ac arfer y gwledydd a'u defodau, ac ymddygiad, ac addfwynder, a boneddigeiddrwydd. Gad weithian iaith dy fam, a mi a fyddaf athraw i ti, ac a'th urddaf yn farchog urddol o hyn allan. A dyma a wnei, —os gweli beth a fo ryfedd gennyt, nac ymofyn beth yw, os na bydd digon o foesgarwch i'w fynegi i ti. Nid annat ti y bydd y cerydd, ond arnaf fi, canys mi sydd athraw i ti."

Ac anrhydedd a gwasanaeth ddigon a gawsant. A phan fu amser, i gysgu yr aethant.

Pan ddaeth y dydd gyntaf, cyfodi a wnaeth Peredur, a chymeryd ei farch, a chychwyn ymaith trwy ganiatad ei ewythr. A daeth i goed mawr anial, ac ymhen draw