y coed daeth i ddol, a'r tu arall i'r ddol wastad gwelai gaer fawr, a thua'r lle hwnnw y cyfeiriodd Peredur. A'r porth a gafodd yn agored, ac aeth i'r neuadd. A'r hyn welai oedd gwr llwyd bonheddig yn eistedd yn ochr y neuadd, a gwyr ieuainc yn aml o'i gylch. A chyfodi a wnaethant yn foesgar, a'i dderbyn, a'i ddodi i eistedd ar y naill law i'r gŵr biai y neuadd. Ac ymddiddan a wnaethant. A phan fu amser myned i fwyta, dodi Peredur a wnaethant i eistedd ar y naill law i'r gŵr mwyn i fwyta. Ac wedi darfod bwyta ac yfed eu hamcan, gofyn a wnaeth y gŵr da i Peredur a allai ef daro â chleddyf.
"Pe caffwn ddysg, tebyg yw gennyf y gallwn," ebe Peredur.
Ac yr oedd haiarn mawr yn llawr y neuadd.
"Cymer," ebe y gŵr wrth Peredur, "y cleddyf acw a tharo yr haiarn."
A Pheredur a gyfododd ac a darawodd yr haiarn onid oedd yn ddeu-ddryll, a'r cleddyf yn ddeu-ddryll.
"Dod y darnau ynghyd a chyfuna hwy."
Peredur a'u dododd ynghyd, a chyfunasant fel cynt. A'r ailwaith tarawodd yr haiarn yn ddeu-ddryll, a'r cleddyf yn ddeu-daryll, ac fel cynt cyfuno a wnaethant. A'r drydedd waith cyffelyb ddyrnod a darawodd, a'u bwrw ynghyd, ond ni chyfunai yr haiarn na'r cleddyf.
"Ie, was," ebe y gŵr, "dos i eistedd bellach, a'm bendith i ti. Y dyn goreu yn y deyrnas am daro â chleddyf wyt. Deuparth dy ddewredd a gefaist, a'r trydydd