Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ran sydd heb ei gael. Ac wedi i ti gael dy ddewredd yn gwbl, ni thycia i neb ymryson â thi. A'th ewyrth wyf finnau, frawd dy fam. Brodyr ym ni a'r gŵr y buost neithiwr yn ei dy."

Ac yna ymddiddan â'i ewyrth a wnaeth Peredur. Ar hynny gwelai ddau was yn dyfod i'r neuadd, ac yn mynd i'r ystafell, a gwaew ganddynt anfeidrol ei faint, a thair ffrwd o waed yn rhedeg o'i phen hyd y llawr. A phan welodd y nifer hwnnw wylo a llefain a wnaethant. Ond, er hynny, ni thorrodd y gŵr yr ymddiddan â Pheredur. Er hynny ni ddywedodd wrth Peredur yr ystyr, ac ni ofynnodd yntau. Ar hynny, wedi distewi ysbaid fechan, dyma ddwy forwyn yn dyfod â dysgl fawr rhyngddynt, a phen dyn yn y ddysgl, a gwaed yn dew o'i amgylch. Ac yna llefain yn fawr a wnaeth nifer y llys, onid oedd yn flin trigo yn yr un llys â hwynt. Ac o'r diwedd tewi a wnaethant. A phan fu amser i gysgu, yr aeth Peredur i ystafell deg. A thrannoeth Peredur a gychwynnodd ymaith trwy gan- iatad ei ewyrth.

Oddi yno ef a ddaeth i goed, ac ymhell yn y coed clywai wylo. A'r hyn welai oedd gwraig oleuwallt fonheddig, a march a chyfrwy arno yn sefyll ger ei llaw, a chorff  yn ei hymyl. A phan y ceisiai roddi y corff ar y cyfrwy oedd ar y march, syrthiai y corff i lawr, ac wylai hithau.

"Dywed, fy chwaer," ebe Peredur, "pam yr wyt yn wylo?"

"O esgymunedig Beredur! gwared bychan a gefais o fy ngofid gennyt ti erioed."