"Paham yr wyf fi esgymunedig?" ebe Peredur.
"Am dy fod yn achos i ladd dy fam. Canys pan gychwynnaist o'i hanfodd, neidiodd gwaew i'w chalon, ac o hynny bu farw. Ac am hynny yr wyt yn esgymunedig. A'r cor a'r gorres a welaist yn llys Arthur, corachod dy dad di a'th fam oeddynt, a chwaer—faeth i ti wyf finnau. A'm gŵr priod oedd hwn a laddwyd gan y marchog sydd yn y llannerch yn y coed,—ac na ddos dithau ar ei gyfyl ef rhag iddo dy ladd."
"Fy chwaer, cam wnai i'm fy ngheryddu. Am fy mod cyhyd ag y bum gyda chwi, prin y gorchfygaf ef, a phe buaswn yn hwy anhawdd fyddai i'm ei orchfygu. Taw dithau, bellach, a'th wylo, canys ni thycia ddim. A mi a gladdaf y corff; ac wedi hynny mi a af hyd lle mae y marchog, i edrych a allaf ei ddial arno."
Ac wedi iddo gladdu y gŵr, dyfod a wnaethant i'r lle yr oedd y marchog yn marchogaeth yn rhyfygus yn y llannerch. Ar hyn gofyn a wnaeth y marchog i Peredur o ba le y deuai.
"Deuaf o lys Arthur."
"Ai gŵr Arthur wyt ti?"
"Ie, myn fy nghred."
"Un iawn i ymlynu wrtho yw Arthur."
Ac ni fuont yn hwy na hynny cyn ymladd. Ac yn y lle Peredur a daflodd y marchog. A nawdd a archodd yntau gan Peredur.
"Nawdd a geffi," ebe Peredur, "os cymeri y wraig hon yn briod, a gwneuthur y parch a'r aurhydedd goreu a elli iddi; am ladd o honot tithau ei gŵr priod hi yn wirion. A mynd o honot i lys Arthur, a