mynegi iddo mai fi a'th daffodd er anrhydedd a gwasanaeth i Arthur. A mynegi iddo na ddeuaf i byth i'w lys ef oni ymladdwyf â'r gwr hir sydd yno i ddial sarhad y cor a'r gorres arno."
A llw am hyn a gymerodd gan y marchog. A threfnwyd y wraig yn gywir o farch a dillad gydag ef i lys Arthur, a mynegwyd yr hanes i Arthur, a'r bygwth ar Gai. A cherydd a gafodd Cai gan Arthur a'r teulu am gadw o hono was cystal a Pheredur o lys Arthur. Ebe Owain fab Uryen,—
"Ni ddaw y gŵr ieuanc hwn byth i'r llys, onid a Cai allan o'r llys."
"Myn fy nghred!" ebe Arthur, "mi chwiliaf anialwch Ynys Prydain am dano oni chaffwyf ef. Ac yna gwnaed pob un o honynt a allo o waethaf i'w gilydd."
Yntau Peredur a gychwynnodd rhagddo, ac a ddaeth i goed anial. Sathyr dynion ac anifeiliaid ni welai, ond gwyddweli a llysiau. Ac ymhen draw y coed gwelai gaer fawr, a thyrrau cedyrn aml arni. Ac yn agos i'r porth hwy oedd y llysiau nag yn un lle arall. Ac â phen ei bicell curodd y porth. Ar hynny dyna was melyn—goch cul ar fwlch yn y gaer.
"Dewis, unben," ebe ef, "ynte i mi agor y porth i ti, neu fynegi i'r neb pennaf dy fod wrth ddrws y porth?"
"Mynega fy fod yma,'" ebe Peredur, "ac os mynnir i'm ddyfod i mewn, mi a ddeuaf."
Y gwas a ddaeth drachefn, ac a agorodd y porth i Peredur. A phan ddaeth i'r neuadd ef a welai ddeunaw o weision culion, cochion, o'r un dwf a'r un bryd, a'r un wisg