Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r un oed, a'r gwas a agorasai y porth iddo. A da ocdd eu moes a'u gwasanaeth. A diosg ei esgidiau a wnaethant.

Eistedd ac ymddiddan a wnaethant. Ar hynny dyma bum morwyn yn dyfod o'r ystafell i'r neuadd. A diau oedd gan Peredur na welodd forwyn erioed cyn deced a'r forwyn bennaf o honynt.

Hen wisg o sidan—fuasai dda gynttyllog fel y gwelid ei chnawd trwyddo. Gwynnach oedd na blawd y crisant. Ei gwallt hi a'i lwy ael oedd dduach na'r muchudd. Dau fan coch bychan oedd yn ei gruddiau,—cochach oeddynt na dim cochaf.

 Cyfarch gwell a wnaeth y forwyn i Peredur, ac eistedd ar y naill law. Cyn hir wedi hynny gwelai ddwy fynaches yn dyfod, a chostrel yn llawn o win gan y naill, a chwe torth o fara càn gan y llall.

"Arglwyddes," ebe hwy, "Duw a ŵyr nad oes cymaint arall a hyn o fwyd a diod yn y confent acw heno."

Yna aethant i fwyta. A Pheredur a sylwodd fod y forwyn yn mynnu rhoddi mwy o fwyd a diod iddo ef nag i neb arall.

"Tydi, fy chwaer," ebe Peredur, "myfi a rannaf y bwyd a'r ddiod."

"Nac ef, enaid," ebe hi.

"Yn wir, mi a'i rhannaf."

Peredur a gymerth ato y bara, ac a'u rhoddes i bawb gystal a'u gilydd, a mesur ffiol o'r gwin a roddodd i bawb cystal a'u gilydd. Pan oedd amser myned i gysgu, ystafell a gyweiriwyd i Beredur. Ac i gysgu yr aeth.