Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Dyma, fy chwaer," ebe y gweision wrth forwyn decaf a phennaf o honynt, "a gynhygiwn i ti."

"Beth yw hynny?" ebe hi.

"Myned at y gŵr ieuanc i'r ystafell uchod, ac ymgyunyg iddo yn wraig neu yn gaeth-ferch, yr hyn oreu ganddo ef."

"Dyna," ebe hi, "beth ni wedda. Myfi heb achos erioed â gŵr. Ac ni allaf gynnyg iddo cyn iddo fy hoffi. Ni allaf fi hyuny er dim."

"I Dduw y dygwn ein cyffes, oni wnai di hynny, ni a'th adawn i'th elynion yma i wneuthur a fynnont â thi."

A rhag ofn hynny cychwyn a wnaeth y forwyn, a than ollwng dagrau aeth rhagddi i'r ystafell. A chan dwrf y ddor yn agor deffro a wnaeth Peredur. Ac yr oedd y forwyn yn wylo ac yn llefain.

"Dywed, fy chwaer," ebe Peredur, "pam yr wyt yn wylo?"

"Mi a ddywedaf i ti, arglwydd," ebe hi. Fy nhad i oedd biai y cyfoeth hwn yn eiddo iddo ei hun; a'r llys hwn a'r iarllaeth o'i chylch oedd y goreu yn ei gyfoeth. Ac yr oedd mab iarll arall yn fy ngofyn innau i fy nhad. Nid awn innau o'm bodd ato ef, ac ni roddai fy nhad fi o'm hanfodd iddo ef nac i iarll yn y byd Ac nid oedd o blant i'm tad i ond myfi.

Ac wedi marw fy nhad dacth y cyfoeth i'm llaw innau, ac yn sicr ni fynnwn i ef wedi hynny mwy na chynt. A'r hyn a wnaeth yntau, wedyn, oedd rhyfela yn fy erbyn i, a goresgyn fy nghyfoeth ond yr un tŷ hwn. A chan mor dda y gwŷr a welaist ti,—brodyr-maeth i mi, a chadarned y tŷ, ni chymer ef byth tra