Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y parhao bwyd a diod. A hynny a ddarfyddodd, ond fel y mae y mynachesau a welaist di yn ein porthi, o herwydd fod y cyfoeth a'r wlad yn rhydd iddynt hwy. Ac yn awr nid oes iddynt hwythau ddim bwyd na diod; ac nid oes amser pellach nag y fory oni ddel yr iarll a'i holl allu gydag ef yn erbyn y lle hwn. Ac os myfi a gaiff ef, ni fydd gwell fy sefyllfa na'm rhoddi i weision y meirch. A dyfod i ymgyunyg i thithau, arglwydd, yr wyf, yn y wedd y bo oreu gennyt ti, er bod yn nerth i mi,—fy nwyn oddi yma, neu fy amddiffyn yma."

"Dos, fy chwaer," ehe ef, "i gysgu. Ac nid af i oddi wrthyt cyn y gwnelwyf ddim a ddywedi, oni welwyf a allwyf fod yn nerth i chwi."

Drachefn aeth y forwyn i gysgu. Trannoeth y bore y cyfododd y forwyn, ac y daeth hyd lle yr oedd Peredur, a chyfarch gwell iddo.

"Duw a roddo dda i ti, enaid, a pha ryw chwedlau sydd gennyt?"

"Nid oes ond fod yr iarll a'i holl allu wedi gwersyllu wrth y porth. Ac ni welodd neb amlach pebyll, a marchogion, yn galw ar arall i ymladd."

"Yn wir," ebe Peredur, "paratoer i minnau fy march."

Yna y march a baratowyd i Beredur. Ac yntau a gyfododd ac a gyrchodd y weirglodd. Ac yr oedd yn y weirglodd farchog yn marchogaeth yn rhyfygus, wedi codi arwydd i ymladd âg ef. Ac i ymladd yr aethant. A Pheredur a daflodd y marchog dros grwper ei farch i lawr. Ac yn niwedd y dydd daeth marchog arbennig i ymladd