âg ef; a thaflu hwnnw a wnaeth Peredur. Nawdd a archodd hwnnw.
"Pwy wyt ti?" ebe Peredur.
"Yn wir," ebe ef, "penteulu i'r iarll."
"Beth sydd o gyfoeth yr iarlles yn dy feddiant di?"
"Yn wir," ebe ef, "tair rhan."
"Ie," ebe ef, "dychwel iddi dair rhan ei chyfoeth yn llwyr, ac a gefaist o dda o hono. A bwyd can ŵr, a'u diod, a'u meirch, a'u harfau heno iddi yn y llys. A bydd dithau yn garcharor iddi."
A hynny a ganiataodd yn ddiddannod. Ac yr oedd y forwyn yn hyfryd lawen y nos honno, wedi cael y pethau hyn oll. A thrannoeth Peredur a aeth i'r weirglodd, a llawer o honynt a daflodd ef y dydd hwnnw. Yn niwedd y dydd daeth marchog rhyfygus arbennig ato, a thaflu hwnnw a wnaeth Peredur. A nawdd a archodd hwnnw gan Beredur.
"Pa un wyt tithau?" ebe Peredur.
"Distain y llys," ebe ef.
"Beth," ebe Peredur, "sydd o gyfoeth y forwyn yn dy feddiant di?"
"Tair rhan ei chyfoeth," ebe ef.
"Ie," ebe Peredur, "dychwel ei chyfoeth i'r forwyn, ac a gefaist o dda o hono yn llwyr. A bwyd dau gan ŵr, a'u diod, a'u meirch, a'u harfau. A bydd dithau yn garcharor iddi."
A hynny a gafodd yn ddiddannod. A'r trydydd dydd y daeth Peredur i'r weirglodd, a mwy a daflodd ef y dydd hwnnw na'r un dydd. Ac yn niwedd y dydd daeth yr iarll i ymladd ag ef. Ac ef a'i taflodd, a nawdd a archodd yntau.