Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Pwy wyt tithau?" ebe Peredur.

"Myfi yw yr iarll," ebe ef, "nid ymgelaf."

"Ie," ebe Peredur, "dychwel ei hiarllacth yn gyfan i'r forwyn, a'th iarllaeth dithau yn ychwaneg. A bwyd tri channwr a'u diod, a'u meirch a'u harfau, a thithau i'w mheddiant."

Ac felly y bu popeth. A thrigodd Peredur dair wythnos, yn peri rhoddi teyrnged ac ufudd-dod i'r forwyn, ac i'r cyfoeth fod wrth ei chyngor.

"Gan dy gennad," ebe Peredur, "mi a gychwynnaf ymaith."

"Ai hynny a fynni, fy mrawd?"

"Ie, myn fy nghred, ac oni bai fy mod yn dy garu di, ni fuaswn yma cyhyd ag y bum."

"Enaid," ebe hi, "pwy wyt tithau?"

Peredur, fab Efrog o'r Gogledd. Ac os daw gofid neu enbydrwydd arnat, mynega i mi, a mi a'th amddiffynnaf, os gallaf."

Cychwyn a wnaeth Peredur oddi yno. Ac ymhell oddi yno cyfarfyddodd marchoges âg ef, ar farch cul, chwysedig. A chyfarch gwell a wnaeth hi i'r gŵr ieuanc.

"O ba le y deui, fy chwaer?"

Mynegi a wnaeth iddo pam y cerddai felly. A phwy oed ond gwraig Syberw y Llannerch.

"Yn wir," ebe ef, "myfi yw y marchog o achos yr hwn y cefaist y gofid yma. Ac edifar fydd y neb a'i gwnaeth."

Ar hynny dyma y marchog yn dyfod, a gofynnodd i Beredur a welsai ef y cyfryw farchog a oedd ef yn ei geisio.

"Taw a'th son," ebe Peredur, "myfi yr