Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyt yn ei geisio. A myn fy nghred, drwg wyt a'r teulu wrth y forwyn, o achos gwirion yw yn ei pherthynas â mi."

 Ac ymladd a wnaethant. Ac ni bu hir yr ymladd,—Peredur a datlodd y marchog. A nawdd a archodd yntau gan Beredur.

"Nawdd a geffi," ebe Peredur, "os ai drachefn y ffordd y daethost i fynegi i ti gael y forwyn yn wirion, ac fel iawn iddi hithau y taflais i di."

A'r marchog a addawodd hynny iddo.

Ac yntau, Peredur, a gerddodd rhagddo. Ac ar fynydd uwch law iddo gwelai gastell, a thuag ato yr aeth. A churo y borth a wnaeth â'i bicell. Ar hynny dyma was goleubryd bonheddig yn agor y porth,—a maint milwr ac oedran mab arno. A phan ddaeth Peredur i'r neuadd yr oedd gwraig fawr fonheddig yn eistedd mewn cadair, a llaw—forwynion yn aml o'i chylch. A llawen fu y wraig dda wrtho. A phan fu amser iddynt, myned i fwyta a wnaethant. Wedi darfod bwyta,—

"Gwell i ti, unben," ebe hi, "fyned i gysgu i le arall."

"Oni chaf gysgu yma?" ebe Peredur.

"Naw gwiddon, enaid, sydd yma, o widdonod Caer Loew, a'u tad a'u mam gyda hwy. Ac os na ddihangwn ni cyn dydd, hwy a'n lladdant. Ac fe ddarfu iddynt oresgyn ein cyfoeth a'i ddifetha, ond yr un tŷ hwn."

"Ie," ebe Peredur, "yma y byddaf heno. Ac os gofid a ddaw arnoch, os gallaf wneyd lles mi a'i gwnaf,—ac afles nis gwnaf finnau."