Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac i gysgu yr aethant. A chyda'r dydd Peredur a glywai wylo angherddol. A chyfodi yn gyflym a wnaeth Peredur, gan roddi ei lodrau a'i fantell am dano, a'i gleddyf wrth ei wregys. Ac aeth allan, a'r hyn welai oedd gwiddon yn trechu gwyliwr, ac yntan yn gwaeddi. Aeth Peredur yn erbyn y widdon, ac a'i tarawodd â chleddyf ar ei phen hyd oni ledodd yr helm a'i phen-orchudd fel discl am ei phen.

"Dy nawdd, Peredur deg, fab Efrog, a nawdd Duw!"

"Pa fodd, wrach, y gwyddost di mai Peredur wyf fi ?"

"Tynged a gweledigaeth eglurodd y byddai i ni oddef gofid oddiar dy law; ac y byddai i tithan gymeryd march ac arfau gennyf finnau. A chyda mi y byddi yn dysgu marchogaeth a thrin arfau."

"Fel hyn," ebe Peredur, "y ceffi nawdd, -addaw na wnei gam byth yng nghyfoeth yr iarlles."

A'i llw ar hynny a gymerodd Peredur. A chan ganiatad yr iarlles, cychwynnodd gyda'r widdon i lys y gwiddonod. Ac yno y bu dair wythnos gyfan. Yna, wedi dewis ei farch a'i arfau, cychwynnodd rhagddo. A diwedd y dydd ef a ddaeth i ddyffryn, ac ymhen draw y dyffryn daeth i gell meudwy. A llawen fu y meudwy wrtho. Ac yno y bu ef y nos honno. Trannoeth y bore ef a  gyfododd oddi yno. A phan ddaeth allan yr oedd cawod o eira wedi disgyn y nos gynt. A gwalch gwyllt wedi lladd hwyad wrth dalcen y gell. A chan dwrf y march cilio wnaeth y gwalch. A disgyn-