Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nodd bran ar gig yr aderyn. A'r hyn wnaeth Peredur oedd sefyll, a chyffelybu dued y fran, a gwynder yr eira, a chochter y gwaed, i wallt y wraig fwyaf a garai a oedd cyn ddued a'r muchudd, a'i chnawd oedd cyn wynned a'r eira, a chochter y gwaed yn yr eira i'r ddau fan coch oedd yn ei gruddiau

Ar hynny yr oedd Arthur a'i deulu yn ceisio Peredur.

"A wyddoch chwi," ebe Arthur, "pwy yw y marchog â'r bicell hir, saif yn y nant uchod?"

"Arglwydd," ebe un, "mi a af i wybod pa un yw."

Yna y daeth y gwas hyd y lle yr oedd Peredur, a gofyn a wnaeth beth y wnai yn synfyfyrio felly, a phwy oedd. A chan faint meddwl Peredur ar y wraig fwyaf a garai, ni roddodd ateb iddo. A'r hyn wnaeth yntau oedd ymosod ar Peredur â phicell. Yntau Peredur a drodd at y gwas, ac a'i tarawodd dros grwper ei farch i'r llawr. Ac ar ei ol ef y daeth pedwar gwas ar hugain ato, y naill ar ol y llall. Ac nid atebodd yr un mwy na'u gilydd, ond gwneyd yr un chware â phob un,—ei daro â'r un bwriad  i'r llawr. Yntau Cai a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd yn sarrug ac anhygar wrth Peredur. A Pheredur a'i tarawodd â'i bicell dan ei ddwy ên, ac a'i tailodd ergyd oddi wrtho, nes y torrodd ei fraich a gwaell ei ysgwydd. A marchogacth a wnaeth drosto un waith ar hugain. Ac fel yr oedd yn farw lewyg gan faint y dolur a gawsai, trodd ei farch ymaith gan deithio'n