Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyflym. A phan welodd y teulu y march yn dyfod heb y gŵr arno, cychwynasant ar frys tua'r lle y buasai yr ymladdfa. A phan ddaethant yno, tebygu a wnaethant fod Cai wedi ei ladd,—ond hwy welsant, os cawsai feddyg da, y byddai byw.

Ni symudodd Peredur ei feddwl, mwy na chynt, er gweled y pryder oedd uwch ben Cai.

Daethpwyd â Chai hyd ym mhabell Arthur. A gorchmymodd Arthur ddwyn meddygon cywrain ato. Drwg fu gan Arthur gyfarfod o Gai y gofid hwnnw, canys mawr y carai ef. Ac yn y dywedodd Gwalchmai,—

"Ni ddylai neb gyffroi marchog urddol oddi ar y meddwl y bydd ynddo yn annoeth; canys meddylio yr oedd naill ai am y golled a ddaeth iddo, neu ynte am y wraig fwyaf a garai. Ac os bydd da gennyt ti, arglwydd, myfi a af i edrych a symudodd y marchog oddi ar y meddwl hwnnw. Ac os felly y bydd, mi a archaf iddo yn hygar ddyfod i ymweled â thi."

Ac yna y sorrodd Cai, ac y dywedodd eiriau dig, cenfigennus.

"Gwalchmai," ebe ef, "hysbys yw gennyf fi y deui di âg ef, o herwydd blinedig yw. Clod ac anrhydedd bychan, wir, yw i ti orchfygu y marchog lluddedig wedi blino yn ymladd. Felly, wir, y gorchfygaist di lawer o honynt hwy. A hyd tra parhao gennyt ti dy dafod a'th eiriau teg, gwisg o lian tenau am danat fydd ddigon o arfau i ti; ac ni fydd raid i ti dorri, na phicell, na chleddyf wrth ymladd â'r marchog a geffi yn yr ansawdd hon."