Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yna y dywedodd Gwalchmai wrth Cai,—

"Ti a allet ddweyd a fai addfwynach pe mynnet. Ac nid arnaf fi yr wyt i ddial dy lid a'th ddigofaint. Tebyg yw gennyf hefyd y dygaf y marchog gyda mi heb dorri fy mraich na'm hysgwydd."

Yna y dywedodd Arthur wrth Walch— mai,—

"Fel un doeth a phwyllog y siaredi di. A dos dithau rhagot, a chymer ddigon o arfau am danat, a dewis dy farch."

Gwisgo am dano a wnaeth Gwalchmai, a myned rhagddo yn gyflym ar ei farch tua lle yr oedd Peredur. Ac yr oedd yntau â'i bwys ar baladr ei bicell, ac yn meddylio yr un meddwl. Daeth Gwalchmai ato, heb arwydd gelyn arno, a dywedodd wrtho,—

"Pe gwypwn fod yn dda gennyt ti, fel y mae da gennyf fi, mi a ymddiddanwn â thi. Hefyd negesydd wyf fi oddi wrth Arthur atat, i atolwg armat ddyfod i ymweled âg ef. A dau ŵr a ddaeth o'm blaen i ar y neges yma."

"Gwir yw hynny, "ebe Peredur, "ac anhygar y daethant. Ymladd a wnaethant â mi. Ac nid oedd dda gennyf innau hynny; am nad oedd dda gennyf gael fy nwyn oddi  ar y meddwl yr oeddwn ynddo. A meddylio yr oeddwn am y wraig fwyaf a garwn. A'r achos y daeth hynny i'm cof oedd,— yn edrych yr oeddwn ar yr eira, ac a ar y fran, ac ar y dafnau o waed yr hwyad a laddasai y gwalch yn yr eira. Ac yn meddylio yr oeddwn fod mor debyg gwynder yr eira, a