dued ei gwallt a'i haelau a'r fran, a'r ddau fan coch oedd yn ei gruddiau i'r ddau ddefn- yn o waed."
"Nid anfoneddigaidd y meddwl hwnnw," ebe Gwalchmai, "ac nid rhyfedd mai nid da oedd gennyt gael dy ddwyn oddi arno."
"A ddywedi di i mi a ydyw Cai yn llys Arthur?" ebe Peredur.
"Ydyw," ebe yntau. "Efe oedd y marchog olaf a ymladdodd â thi. Ac nid da fu iddo yr ymladd hwnnw. Torrodd ei fraich ddehau a gwaell ei ysgwydd yn y cwymp a gafodd oddi wrth dy waewffon di."
"Ie," ebe Peredur, "nid rhyfedd dechreu dial y cor a'r gorres felly."
A rhyfeddu a wnaeth Gwalchmai yn ei glywed yn dywedyd am y cor a'r gorres, a dynesodd ato, ac wedi rhoddi ei ddwylaw am ei wddf, gofynnodd beth oedd ei enw.
"Peredur fab Efrog ym gelwir i," ebe ef, "a phwy wyt tithau?"
"Gwalchmai ym gelwir i," ebe yntau.
"Da yw gennyf dy weled," ebe Peredur.
"Dy glod a glywais ym mhob gwlad a fum ynddi, fel milwr a chyfaill. A'th gymdeithas sydd dda gennyi ei gael."
"Ti a'i ceffi, myn fy nghred, a dyro i minnau dy un dithau."
"Ti a'i ceffi, yn llawen," ebe Peredur.
Cychwyn a wnaethant, ill dau, yn hyfryd a chytun, tua'r lle yr oedd Arthur A phan glywodd Cai eu bod yn dyfod, dywedodd,—
"Mi a wyddwn na fyddai raid i Walchmai ymladd â'r marchog. Ac nid rhyfedd iddo gael clod. Mwy a wna of o'i eiriau teg na myfi o'm nerth a'm harfau."
A myned a wnaeth Peredur i babell