Gwalchmai i ddiosg eu harfau. Cymeryd a wnaeth Peredur wisg fel a wisgai Gwalchmai, a myned a wnaethant law yn llaw hyd y lle yr oedd Arthur, a chyfarch gwell iddo.
"Dyma, arglwydd," ebe Gwalchmai, "y gŵr y buost er ystalm o amser yn ei geisio."
"Croesaw i ti, unben," ebe Arthur, "a chyda mi y trigi. A phe gwypwn fod dy ddewredd fel y bu, nid aet oddi wrthyf i pan aethost. Fe rag-ddywedodd y cor a'r gorres hyn i ti,—y rhai y bu Cai yn frwnt wrthynt, a thithau a'i dielaist."
Ar hynny, wele y frenhines a'i llawforwynion yn dyfod. A chyfarch gwell a wnaeth Peredur iddynt. A llawen buont hwythau wrtho, a'i groesawu a wnaethant. Parch ac anrhydedd mawr a wnaeth Arthur i Peredur. A dychwelyd a wnaethant tua Chaer Lleon.
A'r nos gyntaf y daeth Peredur i Gaer Lleon i lys Arthur, fel yr oedd yn cerdded yn y gaer wedi bwyd, wele Angharad Law Eurog yn ei gyfarfod.
'Myn fy nghred, fy chwaer," ebe Peredur, "morwyn hygar garuaidd wyt. A mi a allaf dy garu yn fwyaf gwraig, pe da gennyt."
"Myfi a roddaf fy llw," ebe hi, "fel hyn, -na charaf fi dydi, ac na'th fynnaf yn dragwyddol."
"Minnau a roddaf fy llw," ebe Peredur, "na ddywedaf innau air byth wrth gristion hyd oni ddeui i fy ngharu i yn fwyaf gŵr."
Trannoeth cerddodd Peredur ymaith, a dilynodd y brif-ffordd ar hyd cefn mynydd